Skip to content
Cyhoeddiad

Sêl Dydd Gwener Gwych 16-19 Mai 2025

SÊL DYDD GWENER GWYCH 2025: TELERAU AC AMODAU

Cynnig Aelodaeth 6 Mis: Talu am 4 mis a chael 6 mis
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener, 16 Mai 2025 a dydd Llun, 19 Mai 2025, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r cynnig aelodaeth 6 mis yn cynnwys 2 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 6 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol).
3. Mae’r cynnig 6 mis ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynllun Cyfeirio Cyfaill hefyd neu ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
4. Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno er mwyn trosi i’r cynnig 6 mis.
5. Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim yn rhan o’r cynnig hwn) yn unol â’r drefn arferol tra’n ymuno ag un o ganolfannau hamdden Gwella. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallant drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
6. Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 30 Mehefin 2025.
7. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r cynnig aelodaeth 6 mis.
8. Ni ellir ad-dalu’r cynnig aelodaeth ar ôl ei brynu, ond gellir ei drosglwyddo.
9. Mae’r aelodaeth ganlynol ar gael fel rhan o’r cynnig 6 mis:
• Ffitrwydd Cyfnodau Brig
• 18-24 Oed
• 60+ Cyfnodau Tawel (unrhyw amser cyn 5:00pm)
• Ystafell Ffitrwydd Bwcle
• Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
• Sba Afon
• Corfforaethol
• Ffitrwydd Iau
• Nofio Oedolion yn Unig (pob gweithgaredd dŵr gan gynnwys nofio cyhoeddus, gwersi a dosbarthiadau)
• Sesiynau Nofio i Oedolion heb Gyfyngiad (nofio cyhoeddus yn unig)

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top