Ffitrwydd, Bwyd a Darllen 2026: Gweithgareddau am ddim dros wyliau’r haf ledled Sir y Fflint
Mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn ôl yr haf hwn, a bydd yn cynnig gweithgareddau, bwyd, diodydd a chyfleoedd darllen am ddim i gymunedau ledled Sir y Fflint yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae’r rhaglen gwyliau haf am ddim hon sydd wedi’i chyflwyno gan Gwella mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cynghorau Tref Sir y Fflint, Actif Gogledd Cymru a Farrall’s Group, yn cefnogi plant a theuluoedd trwy gyfuno gweithgareddau corfforol hwyliog, gemau, sesiynau creadigol, llyfrau a bwyd mewn mannau cymunedol lleol.
Nid oes angen archebu lle ac mae bwyd a diodydd wedi’u cynnwys.
Beth yw Ffitrwydd, Bwyd a Darllen?
Mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn rhaglen rad ac am ddim i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Sir y Fflint.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i deuluoedd wneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar brofiadau newydd, mwynhau bwyd a diodydd, darganfod llyfrau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog yn ystod gwyliau’r haf.
Mae sesiynau’n digwydd yng nghanol cymunedau lleol, gan helpu i gael gwared ar rwystrau a rhoi cyfle i deuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael cefnogaeth am ddim yn agosach at adref.
Pryd mae’n cael ei gynnal?
Caiff Ffitrwydd, Bwyd a Darllen 2026 ei gynnal rhwng dydd Llun 20 Gorffennaf a dydd Gwener 21 Awst.
Bydd sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd o’r wythnos mewn cymunedau penodol ledled Sir y Fflint.
Ble mae’n cael ei gynnal?
Bydd rhaglen eleni yn ymweld â 10 o gymunedau yn Sir y Fflint:
- Y Fflint
- Sealand
- Saltney
- Cei Connah
- Bwcle
- Aston
- Mostyn
- Treffynnon
- Treuddyn
- Yr Wyddgrug
Mae’r amserlen lawn i deuluoedd ar gael isod.

Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r amserlen yma
Beth all teuluoedd ei ddisgwyl?
Mae’r sesiynau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen wedi’u cynllunio i fod yn gyfeillgar, croesawgar ac am ddim.
Gall y gweithgareddau gynnwys:
- Chwaraeon a gweithgareddau corfforol
- Gemau
- Crefftau a gweithgareddau creadigol
- Sesiynau darllen
- Gweithgareddau llyfrgell deithiol Gwella
- Gweithgareddau bownsio
- Bwyd a diod
Gall gweithgareddau amrywio yn ôl lleoliad a dyddiad.
Oes angen i mi archebu lle?
Nid oes angen archebu lle. Gall teuluoedd ddod draw i’w sesiwn lleol a chymryd rhan. Mae’r gweithgareddau a gynigir yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
A yw bwyd wedi’i gynnwys?
Ydy, mae bwyd a diodydd wedi’u cynnwys yn rhan o’r rhaglen.
Pam mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn bwysig?
Gall gwyliau’r haf roi pwysau ychwanegol ar deuluoedd, o ddiddanu’r plant a’u cadw’n brysur i ddod o hyd i bethau fforddiadwy i’w gwneud.
Mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn helpu trwy greu mannau croesawgar yn rhad ac am ddim lle gall plant fod allan yn yr awyr agored, symud mwy, treulio amser oddi wrth sgriniau, dod o hyd i ddiddordebau newydd, mwynhau darllen a chysylltu ag eraill.
Yr haf diwethaf, croesawodd Ffitrwydd, Bwyd a Darllen dros 5,300 o blant, pobl ifanc ac aelodau o’u teuluoedd ar draws 45 o sesiynau, gwnaethon nhw ddarparu 3,520 o brydau bwyd a rhannu 800 o becynnau Sialens Ddarllen yr Haf.
Mae cynnal y rhaglen yn bosibl o ganlyniad i gyllid partneriaeth a chydweithio, gan ddod â hamdden, llyfrgelloedd, mannau cymunedol a sefydliadau lleol ynghyd i gefnogi teuluoedd ledled Sir y Fflint.
