Skip to content
Cyhoeddiad

Darganfyddwch Sglefrio Iâ yng Nghanolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy

P’un ai eich bod yn camu ar y rhew am y tro cyntaf, yn chwilio am rywbeth gwahanol i’w wneud gyda’ch teulu a ffrindiau, neu eisiau datblygu eich sgiliau sglefrio ymhellach, mae sawl ffordd o gymryd rhan yng Nghanolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy.

Fel yr unig lawr sglefrio iâ maint Olympaidd parhaol yng Ngogledd Cymru, mae Glannau Dyfrdwy’n croesawu rhai sy’n newydd i’r gamp, sglefrwyr profiadol a chlybiau ac athletwyr cystadleuol.

Sglefrio Iâ Cyhoeddus

Eisiau rhoi cynnig ar sglefrio iâ? Cynhelir sesiynau sglefrio iâ cyhoeddus drwy’r wythnos yng Nglannau Dyfrdwy, gan roi digon o gyfleoedd i blant, oedolion, teuluoedd a grwpiau i fwynhau amser ar y rhew.

P’un ai dyma eich ymweliad cyntaf neu eich bod yn sglefrio’n rheolaidd, dewiswch sesiwn, archebwch eich lle a chamu ar y rhew.

Gweld yr amserlen sglefrio iâ ac archebu

Dysgu Sut i Sglefrio Iâ

Eisiau mwy o hyder ar y rhew neu ddatblygu eich sgiliau sglefrio? Mae Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy’n cynnig Llwybr Dysgu Sut i Sglefrio Cymdeithas Sglefrio Iâ Prydain ar gyfer plant ac oedolion, gyda dewisiadau ar gyfer rhai sy’n gwbl newydd i’r gamp a’r rhai sy’n barod i ddatblygu eu sgiliau.

Mae’r rhaglenni yn cynnwys:

  • Skate Tots – Cyflwyniad hwyliog i sglefrio i blant ifanc.
  • Skate UK – Rhaglen Dysgu Sut i Sglefrio Cymdeithas Sglefrio Iâ Prydain ar gyfer dechreuwyr.
  • Skate Star – y cam nesaf ar gyfer y rhai sy’n barod i ddatblygu sgiliau uwch.
  • Diddy Dragons – cyflwyniad i sglefrio iâ i blant ifanc ar thema hoci iâ.

Ymholwch am wersi sglefrio iâ

Disgos Iâ

Rhowch y gerddoriaeth ymlaen a mwynhau ffordd wahanol o brofi’r rhew yn un o sesiynau Disgo Iâ rheolaidd Glannau Dyfrdwy. Gyda cherddoriaeth, goleuadau ac atmosffer llawn cyffro, mae Disgos Iâ yn cynnig dewis amgen llawn hwyl i’r sesiwn sglefrio iâ cyhoeddus arferol. Mae sesiynau Disgo i’r Teulu hefyd yn rhan o raglen y llawr sglefrio.

Gwiriwch amserlen ddiweddaraf yr Arena Iâ cyn ymweld, gan fod y sesiynau’n amrywio.

Gweld y sesiynau Disgo Iâ ac archebu

Clybiau yng Nghanolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy

Mae Glannau Dyfrdwy hefyd yn gartref i gymuned sefydledig o glybiau sglefrio a hoci iâ, gan gynnig cyfleoedd i barhau i ddatblygu eich sgiliau, bod yn rhan o dîm ac, ar gyfer rhai, symud ymlaen i lefel gystadleuol.

Clwb Cydsglefrio Glannau Dyfrdwy

Mae Clwb Cydsglefrio Glannau Dyfrdwy’n uno sglefrwyr i berfformio fel tîm, gan gyfuno sgiliau sglefrio, cydsymud a ffurfiau ar yr iâ. Cafodd y clwb ei enwi’n Glwb y Flwyddyn gan Gymdeithas Sglefrio Iâ Prydain yn 2025 ac mae wedi tyfu i gynnwys sawl tîm, gan gynnwys tîm cyd-sglefrio cynhwysol cyntaf Cymru.

Cydsglefrio Cynhwysol

Mae Tîm Cynhwysol y clwb yn creu cyfle i sglefrwyr gyda gwahanol lefelau gallu ac anghenion ychwanegol i brofi cyd-sglefrio o fewn amgylchedd tîm cefnogol.
Y nod yw nid yn unig i ddatblygu sgiliau ond rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau sglefrio, magu hyder a bod yn rhan o’r gymuned sglefrio ehangach.

Dysgu mwy am Glwb Cydsglefrio Glannau Dyfrdwy

Clwb Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy

Mae Clwb Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy yn glwb sy’n rhan o Sglefrio Iâ Prydain yn Arena Iâ Glannau Dyfrdwy a bu iddynt ddathlu 50 mlynedd yn 2024. Mae’r clwb yn croesawu sglefrwyr o bob oed ac yn darparu cyfleoedd i ddal ati i sglefrio, datblygu sgiliau a chymryd rhan mewn gweithgareddau clwb, digwyddiadau a chystadlaethau. Mae’r gymuned sglefrio iâ yn cynnwys disgyblaethau fel sglefrio ffigyrau, dawns iâ a chydsglefrio.

Dysgu mwy am Glwb Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy

Clwb Hoci Iâ Deeside Dragons

Os yw’n well gennych deithio’n gynt ar yr iâ, mae Llawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy hefyd yn gartref i Glwb Hoci Iâ Deeside Dragons. Mae’r tîm uwch yn cystadlu yn Adran 1 Gogledd NIHL gyda gemau cartref yn dod â hoci iâ cystadleuol ac atmosffer gemau cyffrous i Lannau Dyfrdwy. Gall y cefnogwyr ddilyn y tîm drwy’r tymor, mynychu’r gemau cartref a chanfod y wybodaeth ddiweddaraf am y clwb a gwybodaeth am docynnau drwy wefan swyddogol y clwb.

Dysgu mwy am y Deeside Dragons yma

Mwy i’w fwynhau yng Nglannau Dyfrdwy

Mae digon i’w wneud oddi ar y rhew hefyd. Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd yn gartref i Barc Sglefrio Dan Do a Pharc Bownsio, gan ei gwneud yn hawdd cyfuno eich ymweliad gyda gweithgaredd arall.

Canfod eich lle ar y rhew

O’ch sesiwn sglefrio iâ cyhoeddus cyntaf i wersi, Disgo Iâ, clwb sglefrio a chwaraeon iâ cystadleuol, mae digon o ffyrdd o fwynhau’r rhew yng Nglannau Dyfrdwy.

Barod i ddechrau?

Gweld amserlen Llawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy ac archebu

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top