Gwella yn tynnu sylw at nofio am ddim ar gyfer cyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog
Mae Gwella yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog drwy atgoffa cyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog bod nofio am ddim ar gael drwy gydol y flwyddyn yn rhai o byllau nofio Gwella yn Sir y Fflint.

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog, a gynhelir rhwng 22 a 28 Mehefin 2026, yn gyfle i gydnabod
cyfraniad personél y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid ar draws y DU.
Fel rhan o gefnogaeth barhaus Gwella ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog, gall cyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog fanteisio ar nofio am ddim yng Nghanolfan Hamdden Bwcle, Canolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones, y Fflint.
Mae’r cynllun yn cefnogi iechyd a lles drwy helpu aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog i gadw’n heini, mwynhau nofio a chael mynediad at gyfleusterau hamdden lleol.
Er mwyn gallu manteisio ar y nofio am ddim, mae’n rhaid i gwsmeriaid cymwys ddangos Tocyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd ar gael drwy Wasanaeth Gostyngiad y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn y dderbynfa. Bydd tîm Gwella yn dilysu’r cerdyn ac yn ychwanegu’r tanysgrifiad at gyfrif y cwsmer.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwella:
“Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi’r cyfle i ni gydnabod ymrwymiad, ymroddiad a chyfraniad cymuned ein Lluoedd Arfog.
“Rydym yn falch o barhau i gynnig nofio am ddim ar gyfer cyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog, fel ffordd fechan o ddangos ein gwerthfawrogiad a chefnogi eu hiechyd a’u lles.
“Mae’r gefnogaeth hon ar gael drwy gydol y flwyddyn, a byddem yn annog unrhyw un sy’n gymwys a heb fanteisio ar y cynllun eto i ymweld â’u canolfan hamdden Gwella leol a siarad gyda’n tîm”.
Mae’r nofio am ddim ar gael i gyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog yn unig. Mae’n rhaid dangos Tocyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cael manteisio ar y cynllun.
