Cyngor ar Ddiogelwch Dŵr i Blant Cyn yr Haf yn Sir y Fflint

Mae Gwella’n cefnogi Wythnos Atal Boddi 2026 RLSS UK drwy helpu plant a phobl ifanc ar hyd a lled Sir y Fflint i feithrin hyder, ymwybyddiaeth a sgiliau diogelwch dŵr hanfodol cyn gwyliau’r haf.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn rhedeg o 13–20 Mehefin ac mae’n codi ymwybyddiaeth am gadw’n ddiogel yn y dŵr ac o’i amgylch, yn enwedig wrth i dywydd cynnes annog mwy o deuluoedd i ymweld â thraethau, llynnoedd, afonydd, cronfeydd dŵr a phyllau nofio.
Mae adroddiadau am ddigwyddiadau trasig diweddar ledled y DU wedi amlygu pa mor sydyn mae damweiniau’n gallu digwydd o amgylch dŵr, yn aml mewn sefyllfaoedd lle nad oedd gan rywun unrhyw fwriad o fynd i’r dŵr o gwbl.
Pam mae diogelwch dŵr mor bwysig yn ystod yr haf
Er bod nofio’n sgil bwysig mewn bywyd, nid yw gallu nofio ar ei ben ei hun yn ddigon i gadw’n ddiogel o amgylch dŵr.
Mae dŵr agored fel afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr yn gallu bod yn hynod beryglus, hyd yn oed mewn tywydd poeth. Mae tymheredd y dŵr yn aml yn aros yn llawer is na’r disgwyl a gall hynny arwain at sioc dŵr oer, panig a phroblemau anadlu o fewn eiliadau.
Mae llawer o ddamweiniau yn y dŵr yn digwydd yn annisgwyl drwy lithro, baglu neu ddisgyn wrth ymyl dŵr, yn hytrach na nofio’n fwriadol.
Gall dysgu plant i adnabod risgiau, peidio â chynhyrfu ac ymateb yn ddiogel mewn argyfwng wneud gwahaniaeth enfawr.
Y Cod Diogelwch Dŵr
Mae RLSS UK yn annog teuluoedd i gofio’r Cod Diogelwch Dŵr:
- Stopio a Meddwl – Cymerwch eiliad i asesu risgiau o amgylch dŵr bob tro.
- Aros gyda’ch Gilydd – Peidiwch byth â mynd i’r dwr ar eich pen eich hun.
- Arnofio – Os ydych chi’n disgyn i’r dŵr yn annisgwyl, arnofiwch ar eich cefn a cheisiwch beidio â chynhyrfu.
- Ffonio 999 – Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth achub mwyaf priodol.
Dosbarthiadau diogelwch dŵr i blant yn Sir y Fflint
Ynghyd â chefnogi Wythnos Atal Boddi, mae Gwella yn annog plant ar hyd a lled Sir y Fflint i barhau i ddatblygu hyder dŵr ac ymwybyddiaeth achub bywydau drwy Raglen Gwersi Achub Bywyd i Blant RLSS UK.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer plant 8 oed a hŷn sy’n gallu nofio 25 metr heb gymorth (Ton 7 neu uwch).
Mae’r Gwersi Achub Bywyd yn helpu plant i ddatblygu:
- Hyder yn y dŵr
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr
- Sgiliau hunan-achub
- Gwybodaeth sylfaenol am achub bywydau
Mae’r rhaglen yn ffordd hwyliog i nofwyr ifanc barhau i ddatblygu tu hwnt i wersi nofio arferol wrth ddysgu sgiliau ymarferol gwerthfawr.
Ble mae sesiynau’r Gwersi Achub Bywyd i Blant yn cael eu cynnal
Mae Gwella ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau Gwersi Achub Bywyd i Blant yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Hamdden Bwcle
- Pafiliwn Jade Jones, y Fflint
- Canolfan Hamdden yr Wyddgrug
Helpu plant i fagu hyder o amgylch dŵr
Boed plant yn mynychu gwersi nofio’n rheolaidd neu ond yn mwynhau treulio amser o amgylch dŵr yn ystod yr haf, mae deall sut i gadw’n ddiogel yn un o’r sgiliau bywyd pwysicaf maent yn gallu eu dysgu.
Gall teuluoedd hefyd gael adnoddau a chyngor am ddim yn uniongyrchol gan RLSS UK yn ystod Wythnos Atal Bodd.
Am fwy o wybodaeth am y Rhaglen Gwersi Achub Bywyd i Blant gan Gwella, anfonwch e-bost at swim@gwella.wales.
