Skip to content
Cyhoeddiad
Dewch yn Aelod o Gwella

Cewch ddarganfod aelodaeth sy’n gweddu i’ch ffordd o fyw. P’un ai ydych chi eisiau dod yn fwy heini, nofio mwy, ymlacio yn y sba neu ymgymryd â sglefrio iâ, mae Gwella yn cynnig aelodaeth hyblyg ddi gontract ar draws ein canolfannau hamdden yn Yr Wyddgrug, Bwcle, Y Fflint a Glannau Dyfrdwy. Mae ein nod yn syml: eich helpu chi i deimlo’n dda, symud mwy a mwynhau pob ymweliad.

Sut i Ymuno

Mae ymuno â Gwella yn gyflym ac yn syml. Gallwch gofrestru drwy:

  • Ymweld â desg y dderbynfa yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug, Canolfan Hamdden Bwcle a Phafiliwn Jade Jones Y Fflint.
  • Ffonio tîm ein prif swyddfa ar 01352 702430
  • Anfon e-bost at info@gwella.wales

Unwaith rydych wedi ymaelodi fe fyddwn yn eich helpu i archebu eich sesiwn gynefino yn y gampfa neu eich gwers gyntaf, byddwn yn eich tywys o amgylch ac yn sicrhau eich bod yn cychwyn gyda hyder.

 

Aelodaeth Ffitrwydd Oriau Brig (o £35 y mis)
Mae ein haelodaeth fwyaf poblogaidd yn rhoi popeth rydych ei angen i chi i barhau yn heini ar draws y pedair canolfan.

Beth Sydd Wedi’i Gynnwys
• Mynediad diderfyn i’r gampfa
• Nofio diderfyn (yn ddibynnol ar yr amserlen nofio cyhoeddus)
• Dosbarthiadau ffitrwydd diderfyn (120+ yr wythnos)
• Mynediad aml safle yn Yr Wyddgrug, Bwcle, Y Fflint a Glannau Dyfrdwy
• Gwiriadau iechyd am ddim
• Rhaglen wedi ei phersonoli ar gyfer y gampfa
• Adolygiadau ffitrwydd rhad ac am ddim
• Sesiynau ffitrwydd personol
• Gostyngiadau ar driniaethau Sba Afon a mynediad i’r Ystafell Thermol

Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o aelodaeth hyblyg sy’n addas i wahanol oedrannau a diddordebau, gan gynnwys aelodaeth ffitrwydd iau i bobl ifanc, aelodaeth 60+ ar gyfer oedolion hŷn, aelodaeth Nofio Cyhoeddus a rhaglenni Gwersi Nofio, aelodaeth sglefrio iâ, gwersi a sglefrio ar lain yn Arena Iâ Glannau Dyfrdwy ac aelodaeth Sba Afon gyda mynediad diderfyn i’r Ystafell Thermol a thriniaethau am bris gostyngol.

Gweld yr Holl Brisiau Aelodaeth

A hoffech chi gymharu popeth mewn un lle?
Cliciwch yma i weld ein Rhestr Opsiynau a Phrisiau Aelodaeth yn llawn.

Canslo Eich Aelodaeth

Ydych chi eisoes yn aelod o Gwella ac eisiau canslo eich aelodaeth ffitrwydd, nofio, sba neu sglefrio iâ? Gallwch wneud hynny ar-lein mewn dim ond ychydig o funudau.

Cliciwch yma i lenwi ein Ffurflen Canslo Aelod.

Noder: chi sy’n gyfrifol am ganslo Debyd Uniongyrchol eich aelodaeth gyda’ch banc. Mae’n bosibl na fydd llenwi ein ffurflen yn atal eich taliadau banc, ac nid yw Gwella yn gyfrifol am ganslo Debyd Uniongyrchol ar eich rhan. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau unwaith y bydd eich cais i ganslo wedi ei brosesu.

Ydych Chi’n Chwilio am Aelodaeth Llyfrgell gyda Gwella yn Lle Hynny?

Os ydych chi yma i ymuno â Llyfrgelloedd Gwella fe allwch gofrestru ar-lein am ddim a dechrau mwynhau ystod eang o wasanaethau ar draws ein llyfrgelloedd ym Mrychdyn, Bwcle, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon a’r Wyddgrug.

Mae aelodaeth llyfrgell yn rhoi mynediad i chi i ddewis enfawr o lyfrau dwyieithog, llyfrau llafar, llyfrau print mawr a’r llyfrau poblogaidd diweddaraf, yn ogystal â gwasanaethau digidol am ddim fel BorrowBox a PressReader ar gyfer e lyfrau, llyfrau llafar, cylchgronau a phapurau newydd. Hefyd fe fyddwch yn cael defnydd rhad ac am ddim o gyfrifiaduron y llyfrgell, cyfleusterau argraffu a Wi Fi, yn ogystal â mynediad at adnoddau ar-lein gan gynnwys Britannica, Theory Test Pro ac adnoddau hanes teulu.

Cliciwch yma i ymuno â Llyfrgelloedd Gwella ar-lein neu ewch i ymweld ag unrhyw un o’n llyfrgelloedd i ymuno wyneb yn wyneb.

Mae pob un o ganolfannau Gwella yn cynnig cyfleusterau hygyrch. Os oes gennych chi anghenion penodol o ran hygyrchedd bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top