Skip to content

Creu atgofion hudolus ar yr iâ dros y Nadolig!

Mae Sglefrio Iâ’r Nadolig yn dychwelyd i Ganolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, o 21 Tachwedd 2026, gan ddod â hwyl yr ŵyl i’r teulu cyfan!

Yn chwilio am weithgareddau Nadoligaidd yng Ngogledd Cymru? Gwisgwch eich esgidiau sglefrio a mwynhewch ganeuon Nadoligaidd, goleuadau arbennig, ac effeithiau eira, yn unig rinc sglefrio iâ maint Olympaidd parhaol Gogledd Cymru.

Os ydych chi’n cynllunio diwrnod allan Nadoligaidd i’r teulu, yn cwrdd â ffrindiau, neu’n rhoi cynnig ar sglefrio iâ am y tro cyntaf, mae rhywbeth at ddant pawb.

Gyda sesiynau Sglefrio Nadolig, sesiynau Sglefrio Nadolig Tawelach a thocynnau teulu ar gael, dyma’r ffordd berffaith i greu atgofion ar yr ia dros yr ŵyl.

Sesiynau Sglefrio Iâ Nadolig, Tocynnau a Phrisiau

Dewis o blith ein profiadau sglefrio Nadolig yng Nghanolfan Sglefrio Ia Glannau Dyfrdwy, gyda dewisiadau ar gyfer teuluoedd, dechreuwyr, a’r sawl sy’n ffafrio amgylchedd tawelach.

Sglefrio Nadolig: £13 y pen

Mwynhewch 90 munud o sglefrio iâ Nadoligaidd gyda cherddoriaeth Nadolig, goleuo arbennig ac effeithiau eira hudolus.

Mae sesiynau penodol yn cynnwys DJ, gan ychwanegu mwy byth o atmosffer Nadoligaidd i’ch ymweliad.

  • Sesiwn sglefrio 90 munud
  • Cerddoriaeth Nadolig a goleuadau arbennig
  • Effaith bwrw eira
  • Dewis o sesiynau DJ
  • Yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio

Tocynnau: £13 y pen | Tocyn teulu: £48 (2 oedolyn a 2 blentyn, neu 1 oedolyn a 3 phlentyn)

Sglefrio Nadolig Tawelach: £10 y pen

Eisiau profiad sglefrio iâ Nadolig tawelach?

Mae ein sesiynau Sglefrio Nadolig Tawelach yn cynnig amgylchedd mwy hamddenol, gyda llai o niferoedd, goleuadau llai llachar a cherddoriaeth dawelach.

Gall y sesiynau hyn fod yn addas yn benodol i deuluoedd â phlant iau, dechreuwyr, a phobl â sensitifrwydd synhwyraidd, neu sy’n dymuno atmosffer llai cyffrous.

  • Sesiwn sglefrio 60 munud
  • Llai o niferoedd a mwy o le ar yr iâ
  • Goleuadau llai llachar a cherddoriaeth dawelach
  • Yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio
  • Croeso i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn

Tocynnau: £10 y pen | Tocyn teulu: £36 (2 oedolyn a 2 blentyn, neu 1 oedolyn a 3 phlentyn)

Bydd Sesiynau Sglefrio Iâ Nadolig Tawelach yn cychwyn am 9:30am o 19 Rhagfyr 2026. Gwiriwch y calendr archebu ar gyfer y dyddiadau sydd ar gael.

Diwrnod Allan Nadoligaidd i’r Teulu yng Ngogledd Cymru

Yn chwilio am bethau hwyliog i’w gwneud gyda’r plant dros y Nadolig?

Mae Sglefrio Iâ Nadolig yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cynnig diwrnod allan bythgofiadwy i deuluoedd yn Sir y Fflint, Caer, Wrecsam a Gogledd Cymru

Wedi’i lleoli yn Queensferry, Sir y Fflint, mae ein canolfan sglefrio iâ yn lle gwych i fwynhau hwyl yr ŵyl gyda’r teulu, beth bynnag fo’r tywydd.

Gyda sesiynau addas ar gyfer dechreuwyr a sglefrwyr profiadol, yn ogystal â chymorth sglefrio pengwiniaid a bananas ar gael i’w llogi, gall y teulu cyfan gymryd rhan.

Cymorth Sglefrio Pengwiniaid a Bananas ar gael i’w Llogi

Yn newydd i’r rhew neu’n dod â phlant ifanc?

Mae pengwiniaid a bananas sglefrio ar gael i’w llogi i helpu sglefrwyr iau neu newydd i fagu hyder ar y rhew.

  • Cymorth sglefrio pengwin: £6
  • Cymorth sglefrio banana: £7

Gall cymorth sglefrio banana helpu dau berson ar y tro, ac mae angen un person i wthio. Mae angen rhywun i wthio cymorth sglefrio pengwin bob amser.

Mae cymhorthion sglefrio yn brin, felly rydym yn argymell eu harchebu ymlaen llawn i osgoi siom.

Noder, nid yw cymhorthion sglefrio wedi’u cynnwys gyda’ch tocyn sglefrio, ac nid oes modd eu trosglwyddo neu eu swopio yn ystod eich sesiwn.

Cynlluniwch eich Ymweliad i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Popeth sydd angen gwybod cyn ymweld â ni ar gyfer Sglefrio Iâ Nadolig.

Lle: Sglefrio Iâ, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA.

Pryd: Mae sesiynau sglefrio Nadolig yn cychwyn ar 21 Tachwedd 2026. Gwiriwch y calendr archebu ar gyfer y dyddiadau a’r amseroedd sydd ar gael.

Parcio: Bydd parcio ar gael yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Beth i’w wisgo: Rydym yn argymell dillad cynnes, cyfforddus, sanau a menig.

Cyrraedd: Cyrhaeddwch tua 30 munud cyn eich sesiwn i roi amser i gasglu eich esgidiau sglefrio a pharatoi. Cofrestrwch yn y dderbynfa cyn mynd i sglefrio.

Cwestiynau Cyffredin Am Sglefrio Iâ Nadolig

Ydi! Mae croeso i ddechreuwyr a sglefrwyr profiadol i’n sesiynau. Mae stiwardiaid ar yr iâ er mwyn goruchwylio a chynnig cyngor sylfaenol pan fo’n bosibl.

Ydi. Mae pris llogi esgidiau sglefrio wedi’i gynnwys yn y tocynnau Sglefrio Nadolig a Sglefrio Nadolig Tawelach.

Mae tocyn teulu yn cynnwys pedwar person: un ai 2 oedolyn a 2 blentyn, neu 1 oedolyn a 3 plentyn. Mae ein tocyn teulu yn costio £48 ar gyfer Sglefrio Nadolig (90 munud) neu £36 ar gyfer Sglefrio Nadolig Tawelach (60 munud). Yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio.

Ar gyfer diogelwch pawb, mae’r rheolau goruchwylio canlynol yn gymwys:

  • Plant o dan 5 oed: Mae’n rhaid cael cwmni oedolyn cyfrifol ar y rhew ar sail un i un.
  • Plant 6 a 7 oed: Mae’n rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol.
  • Plant 8 oed a hŷn: Gallant sglefrio’n annibynnol.

Mae’r sesiynau Sglefrio Nadolig yn cynnwys cerddoriaeth Nadoligaidd, goleuo arbennig ac effeithiau erial, yn ystod sesiwn 90 munud, gyda DJ mewn sesiynau penodol. Mae ein sesiynau Sglefrio Nadolig Tawelach yn cynnig sesiwn fyrrach 60 munud, llai o niferoedd, goleuadau llai llachar a cherddoriaeth dawelach am brofiad mwy hamddenol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn archebu ar-lein ymlaen llaw, yn benodol dros benwythnosau a gwyliau’r ysgol, oherwydd gall sesiynau poblogaidd werthu allan.

Oes, mae croeso i ddefnyddwyr cadair olwyn yng Nghanolfan Sglefrio Glannau Dyfrdwy. Gall sesiynau Sglefrio Nadolig Tawelach fod yn fwy addas oherwydd llai o niferoedd, ac atmosffer tawelach. Cysylltwch â’n tîm cyn ymweld i drafod unrhyw gymorth neu drefniadau angenrheidiol ar gyfer mynediad diogel ar y rhew.

Archebwch Sglefrio Iâ Nadolig yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Yn barod i wisgo eich esgidiau sglefrio?

Cyfle i greu atgofion Nadoligaidd gyda theulu a ffrindiau yng Nghanolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy dros yr Ŵyl.

Gyda sesiynau sglefrio Nadolig o 21 Tachwedd 2026, sicrhewch eich dyddiad ac amser delfrydol drwy archebu ar-lein heddiw!

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top