Sêl Dydd Gwener Du 2026
Cynnig Aelodaeth Flynyddol Ffitrwydd: Talu am 10 mis a chael 12 mis
TELERAU AC AMODAU
- Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener, 27 Tachwedd 2025 a dydd Llun, 30 Tachwedd 2026, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
- Mae’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol yn cynnwys 2 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol). Mae hyn yn well na’n Cynnig Blynyddol safonol o 1 fis am ddim.
- Mae’r Cynnig Blynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
- Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno er mwyn trosi i’r Cynnig Blynyddol.
- Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim yn rhan o’r cynnig hwn) yn unol â’r drefn arferol tra’n ymuno ag un o ystafelloedd ffitrwydd Gwella. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallant drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
- Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2026.
- Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol.
- Ni ellir ad-dalu’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol ar ôl ei brynu yn unol â’r telerau ac amodau presennol sy’n ymwneud ag aelodaeth Flynyddol.
- Mae’r aelodaeth ganlynol ar gael fel rhan o’r Cynnig Blynyddol:
- Ffitrwydd Cyfnodau Brig
- 18-24 Oed
- 60+ Cyfnodau Tawel (unrhyw amser cyn 5:00pm)
- Ystafell Ffitrwydd Bwcle
- Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
- Corfforaethol
• Ffitrwydd Iau
