Sêl Dydd Gwener Du 28 Tachwedd-1 Rhagfyr 2025

SÊL DYDD GWENER DU 2025: TELERAU AC AMODAU
Cynnig Aelodaeth Flynyddol Ffitrwydd: Talu am 9 mis a chael 12 mis
1. Bydd y cynnig ar gael rhwng dydd Gwener, 28 Tachwedd 2025 a dydd Llun, 1 Rhagfyr 2025, yn cynnwys y dyddiadau hynny.
2. Mae’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol yn cynnwys 3 mis am ddim wrth dalu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar dâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol). Mae hyn yn well na’n Cynnig Blynyddol safonol o 2 fis am ddim.
3. Mae’r Cynnig Blynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau nad ydynt yn mynychu bellach. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynllun Cyfeirio Cyfaill hefyd neu ei brynu fel anrheg i aelodau newydd.
4. Bydd pob aelod newydd sydd yn ymuno drwy’r cynnig yma yn mynd drwy daith yr aelod fel arfer. Mae gan aelodau sydd eisoes â debyd uniongyrchol hawl i ganslo os ydynt yn dymuno er mwyn trosi i’r Cynnig Blynyddol.
5. Bydd angen i gwsmeriaid newydd sydd yn ymrwymo i’r cynnig yma drefnu ymgynghoriad cychwynnol (yn rhad ac am ddim yn rhan o’r cynnig hwn) yn unol â’r drefn arferol tra’n ymuno ag un o ystafelloedd ffitrwydd Gwella. Ni fydd angen i aelodau presennol fynd drwy ymgynghoriad cychwynnol er gallant drefnu rhaglen adolygu neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
6. Os ydi’r cynnig yn cael ei brynu ar gyfer aelod Blynyddol presennol sy’n dymuno adnewyddu, yna ni ellir ymestyn dyddiad terfyn yr aelodaeth Flynyddol bresennol y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2025.
7. Ni fydd yna ad-daliad pro-rata ar gyfer yr aelodau debyd uniongyrchol presennol sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol.
8. Ni ellir ad-dalu’r Cynnig Aelodaeth Flynyddol ar ôl ei brynu yn unol â’r telerau ac amodau presennol sy’n ymwneud ag aelodaeth Flynyddol.
9. Mae’r aelodaeth ganlynol ar gael fel rhan o’r Cynnig Blynyddol:
• Ffitrwydd Cyfnodau Brig
• 18-24 Oed
• 60+ Cyfnodau Tawel (unrhyw amser cyn 5:00pm)
• Ystafell Ffitrwydd Bwcle
• Dosbarthiadau Ffitrwydd heb Gyfyngiad
• Corfforaethol
• Ffitrwydd Iau
