Skip to content
Cyhoeddiad

Partïon Pen-blwydd i Blant yn Sir y Fflint

Ydych chi’n chwilio am bartïon pen-blwydd i blant yn Sir y Fflint sydd yn egnïol, yn hwyliog ac yn hawdd i’w trefnu?  Mae Canolfannau Hamdden Gwella yn cynnig amrywiaeth eang o becynnau partïon pen-blwydd i blant ledled Sir y Fflint, yn cynnwys partïon castell neidio, partïon bowlio deg, partïon yn y pwll nofio, partïon yn y parc bownsio, partïon pêl-droed a phartïon yn y parc sglefrio.

Gyda lleoliadau yn y Fflint, yr Wyddgrug, Bwcle a Glannau Dyfrdwy, mae Gwella yn ei gwneud hi’n hawdd i drefnu partïon pen-blwydd y bydd plant yn eu caru, heb achosi ofn ymysg rhieni.

Lleoliadau Partïon Pen-blwydd ledled Sir y Fflint

Mae partïon pen-blwydd Gwella ar gael:

  • Ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint
  • Yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug
  • Yng Nghanolfan Hamdden Bwcle
  • Yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Mae pob lleoliad yn cynnig opsiynau amrywiol ar gyfer ystod oedran a dewisiadau arlwyo gwahanol, felly fe allwch chi ddod o hyd i’r parti cywir i’ch plentyn chi.

 

Partïon Pen-blwydd Castell Neidio

Canolfan Hamdden yr Wyddgrug a Chanolfan Hamdden Bwcle

Mae ein partïon pen-blwydd castell neidio yn Sir y Fflint yn ddelfrydol i blant iau sydd yn caru rhedeg, neidio a llosgi egni.

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

  • Castell neidio yn barod i’w ddefnyddio mewn neuadd chwaraeon mawr
  • Teganau a siapiau chwarae meddal i chware â nhw am ddim
  • Byrddau a meinciau i westeion
  • Lle penodol ar gyfer bwyd parti a theisen

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Chi ddylai ddod â’r bwyd
  • Perffaith i blant oedran cyn ysgol a phlant oedran cynradd
  • Amgylchedd diogel wedi’i oruchwylio

Dyma rai o’n partïon pen-blwydd i blant mwyaf poblogaidd yn yr Wyddgrug a Bwcle.

Trefnu parti castell neidio

 

Partïon Pen-blwydd Bowlio Deg a Chwarae Meddal

Os ydych chi’n chwilio am barti pen-blwydd bowlio deg yn Sir y Fflint, yna mae Pafiliwn Jade Jones y Fflint yn cynnig lonydd bowlio deg maint llawn sydd cystal â’r rhai yng Nghaer a Cheshire Oaks.

Partïon Bowlio Deg

  • 8 lôn bowlio deg maint llawn
  • Ardal eistedd arbennig ar gyfer y parti
  • Darperir bwyd felly nid oes angen i chi drefnu darpariaeth arlwyo

Partïon Chwarae Meddal Llong y Môr-ladron

  • Defnydd arbennig o’n hardal chwarae meddal mawr dan do
  • Ystafell barti benodol ar gyfer bwyd a theisen
  • Darperir darpariaeth arlwyo drwy ein caffi ar y safle

Mae’r dewisiadau yma’n ddelfrydol os hoffech chi barti pen-blwydd i’ch plentyn yn Sir y Fflint lle mae popeth wedi’i gynnwys heb fod angen llawer o waith trefnu.

Trefnu parti pen-blwydd yn y Fflint

 

Partïon Pen-blwydd Teganau Gwynt yn y Pwll

Pafiliwn Jade Jones y Fflint, Canolfannau Hamdden yr Wyddgrug a Bwcle

Mae ein partïon pen-blwydd teganau gwynt yn y pwll yn berffaith i nofwyr hyderus sydd eisiau profiad egnïol.

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

  • Defnydd arbennig o’r prif bwll am 45 munud
  • Cwrs antur gwynt mawr
  • Teganau pwll ar gael
  • Sesiwn teganau gwynt i blant 8 i 12 oed
  • Darpariaeth arlwyo ar gael ym Mhafiliwn Jade Jones

Gofynion diogelwch

  • Rhaid i blant allu nofio 25 metr
  • Efallai y bydd angen asesiad nofio byr ar ddechrau’r sesiwn

Dyma rai o’n partïon pen-blwydd pwll nofio mwyaf cyffrous yn Sir y Fflint.

Trefnu parti pwll nofio

 

Partïon Pen-blwydd yn y Parc Bownsio

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Mae ein partïon pen-blwydd yn y parc bownsio yng Nglannau Dyfrdwy ymysg y dewisiadau mwyaf poblogaidd.

Mae pecyn y parti’n cynnwys

  • 15 munud i wneud popeth yn barod
  • Bownsio am 1 awr
  • Gwesteiwr parti dynodedig
  • Ardal pod dynodedig ar gyfer y parti
  • Neges ben-blwydd wedi’i phersonoleiddio ar y sgrin
  • Hosanau i fownsio wedi’u cynnwys
  • Mae ein caffi ar y safle yn darparu bwyd:  Pizza, Cŵn poeth, Hufen Iâ a digonedd o ddiod sudd

Dewisiadau Ychwanegol

  • Gellir llogi’r parc bownsio yn breifat ar gyfer grwpiau mawr
  • Partïon pen-blwydd NERF gyda gemau ac offer

Trefnu parti yn y parc bownsio

 

 Partïon Pen-blwydd Pêl-droed

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Mae ein partïon pen-blwydd pêl-droed yn Sir y Fflint yn ddelfrydol i blant sy’n caru’r gêm.

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

  • 90 munud ar gae 3G tu allan
  • Hyfforddwr cymwys i gynnal y sesiwn
  • 30 munud mewn ystafell breifat i gael bwyd
  • Bydd y bwyd yn cynnwys: Pizza, Cŵn poeth, Hufen Iâ a digonedd o ddiod sudd
  • Pecyn safonol ar gyfer hyd at 16 o blant

Trefnu parti pêl-droed

 

Partïon Pen-blwydd yn y Parc Sglefrio

Parc Sglefrio Glannau Dyfrdwy

I blant hŷn, mae ein partïon pen-blwydd yn y parc sglefrio yn Sir y Fflint yn cynnig rhywbeth gwahanol.

Manylion y pecyn

  • I 10 o sglefrwyr 8 oed a hŷn
  • Sesiwn 2 awr
  • Offer ar gael i’w logi
  • Byrddau sglefrio
  • Sgwteri
  • Helmedau
  • Mae’r bwyd parti wedi’i gynnwys
  • Yn ddelfrydol i sglefrwyr hyderus a phenblwyddi anturus.

 Trefnu parti yn y parc sglefrio

 

Pam dewis Gwella ar gyfer partïon pen-blwydd i blant?

  • Sawl lleoliad ar gyfer partïon pen-blwydd ledled Sir y Fflint
  • Partïon i bob oedran a gallu
  • Mannau dynodedig ar gyfer partïon
  • Darpariaeth arlwyo ar gael mewn lleoliadau penodol
  • Staff profiadol a safonau diogelwch clir

 

Boed chi’n chwilio am bartïon pen-blwydd i blant yn Sir y Fflint, partïon nofio, partïon castell neidio, neu bartïon parc bownsio, mae gan Gwella opsiwn sydd yn addas i’ch plentyn.

 

Trefnu Parti Pen-blwydd i Blant yn Sir y Fflint

Mae argaeledd partïon yn amrywio yn ôl lleoliad a phecyn. Ffoniwch 01352 704200 neu e-bostiwch attractions@gwella.wales i gael mwy o wybodaeth.

 Gwiriwch yr argaeledd a threfnwch barti pen-blwydd eich plentyn ar-lein heddiw.

 

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top