Skip to content
Cyhoeddiad

Gwella yn lansio Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 yn Llyfrgell yr Wyddgrug

Mae Sir y Fflint wedi lansio Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Lyfrgelloedd Gwella yn Llyfrgell ac Amgueddfa’r Wyddgrug.

Yn y lansiad, daeth mwy na 50 o gynrychiolwyr ynghyd o lyfrgelloedd, sefydliadau cymunedol a phartneriaid diwylliannol i ddathlu rôl bwysig darllen o ran dysgu, lles a bywyd cymunedol ar draws Sir y Fflint a Chymru.

Agorwyd y digwyddiad â pherfformiad gwych gan ddisgyblion o Ysgol Glanrafon, gan helpu i nodi dechrau blwyddyn fydd yn canolbwyntio ar annog pobl o bobl oed i ddarganfod pleser darllen trwy eu llyfrgelloedd lleol yn Sir y Fflint.

Lansio Blwyddyn Genedlaethol Darllen yn Sir y Fflint

Yn ystod y digwyddiad, croesawyd gwesteion o bob cwr o’r rhanbarth, gan gynnwys Jack Sargeant AoS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a amlygodd bwysigrwydd darllen wrth gefnogi addysg, lles a chyfle ar draws Cymru.

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol gan Gemma Jolly, Pennaeth Iechyd a Lles yn yr Asiantaeth Ddarllen, a amlinellodd nodau Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 a’r cyfleoedd mae’n eu cynnig i gymunedau ar draws Cymru hybu llythrennedd a chariad at lyfrau.

Mae’r lansiad yn nodi dechrau rhaglen flwyddyn o hyd o weithgareddau ar draws llyfrgelloedd Gwella yn Sir y Fflint, wedi’i chynllunio i wneud darllen yn fwy gweladwy a hygyrch mewn cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a chymunedau.

Annog darllen ar draws cymunedau Sir y Fflint

Yn ystod y digwyddiad, bu gwesteion yn edrych ar amrywiaeth o fentrau wedi’u cynllunio i annog darllen ar draws y gymuned, gan gynnwys:

• Wal Addewid Darllen y Gymuned
• Heriau darllen Bingo Llyfrau
• Rhaglen ddarllen y blynyddoedd cynnar, Babanod Llyfrau
• Ymgyrch Llythyrau Cariad i’ch Llyfrgell sy’n gwahodd pobl i rannu pam mae eu llyfrgell leol yn bwysig

Mae’r gweithgareddau hyn yn ffurfio rhan o raglen ehangach sy’n cael ei chynnal ar draws llyfrgelloedd Sir y Fflint trwy gydol 2026 er mwyn annog pobl o bob oed i ddarllen yn fwy rheolaidd.

Cefnogi llythrennedd trwy lyfrgelloedd Sir y Fflint

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwella, Andrew Bentley BEM:

“Mae llyfrgelloedd wrth wraidd cymunedau ar draws Sir y Fflint. Maen nhw’n rhoi mynediad am ddim i bobl i lyfrau, dysg, cefnogaeth ddigidol a mannau croesawgar i gysylltu. Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen yn gyfle gwych i greu mwy fyth o fomentwm o amgylch darllen ac i helpu mwy o blant, teuluoedd ac oedolion i fwynhau’r buddion trwy gydol y flwyddyn.”

Trwy gydol 2026, bydd Llyfrgelloedd Gwella yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a rhaglenni darllen ar draws llyfrgelloedd Sir y Fflint, gan helpu pobl o bob oed i ddarganfod neu ailddarganfod pleser llyfrau.

Beth am gymryd rhan ym Mlwyddyn Genedlaethol Darllen

Os hoffech ddysgu mwy am Flwyddyn Genedlaethol Darllen a sut i gymryd rhan trwy Lyfrgelloedd Gwella, darllennwch ein blog:

👉 Darganfyddwch ddarllen eich ffordd chi gyda Llyfrgelloedd Gwella

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top