Skip to content

Arolygydd Arweiniol Meysydd Chwarae

A ydych chi’n angerddol am ddiogelwch yn y gymuned a gwneud gwahaniaeth gweledol i fywydau plant a phobl ifanc?

Rydym yn chwilio am Arolygydd Meysydd Chwarae rhagweithiol ac ymroddedig i arwain ein tîm. Yn y rôl awyr agored hanfodol hon, chi fydd yn gwarchod mannau hamdden ein cymuned, gan sicrhau bod meysydd chwarae, Llecynnau Gemau Amlddefnydd, parciau sglefrio, ardaloedd chwarae pêl anffurfiol a’r offer cysylltiedig yn ddiogel, croesawgar ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda er mwyn i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Wrth gyfuno sylw da i fanylion gyda sgiliau ymarferol, byddwch chi’n cynnal archwiliadau diogelwch, nodi peryglon posibl a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol hanfodol.

Os ydych chi’n hoff o ddatrys problemau ac yn mwynhau gweithio’n annibynnol yn yr awyr iach ac yn chwilio am rôl sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at les y cyhoedd, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top