Cymuned Gwella yn Codi Bron i £2,000 yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Daeth lleoliadau Gwella ledled Sir y Fflint ynghyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i gefnogi lles meddyliol, annog cysylltiadau cymunedol a chodi arian ar gyfer elusen leol Home-Start Sir y Fflint.
Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol yr wythnos yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phafiliwn Jade Jones y Fflint, gan gynnwys sesiynau lles, gweithgareddau cymunedol, sesiynau blasu am ddim a digwyddiadau ffitrwydd wedi’u cynllunio i annog pobl i fod yn egnïol a chefnogi eu hiechyd meddwl.
Roedd yr wythnos yn cefnogi Home-Start Sir y Fflint, elusen sy’n gweithio gyda theuluoedd sy’n wynebu heriau gan gynnwys iselder ôl-enedigol, profedigaeth, unigedd a phroblemau iechyd corfforol. Mae mwy na 56% o waith yr elusen yn cefnogi teuluoedd yr effeithir arnynt gan heriau iechyd meddwl.
Drwy gydol yr wythnos, codwyd cyfanswm anhygoel o £1,890 i gefnogi gwaith yr elusen yn lleol.
Cafodd y cyfanswm ei hybu gan ddigwyddiadau ffitrwydd elusennol a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 16 Mai, gan gynnwys her feicio tair awr yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a digwyddiad aml-ffitrwydd tair awr ym Mhafiliwn Jade Jones y Fflint gyda nifer o ddosbarthiadau ffitrwydd drwy gydol y bore.
Hoffai Gwella hefyd ddiolch i’r holl aelodau, busnesau lleol a chefnogwyr a roddodd wobrau raffl, prynodd docynnau a chyfrannodd at y gweithgareddau codi arian drwy gydol yr wythnos.
Yn ogystal â’r gweithgareddau codi arian, bu Gwella hefyd yn gweithio gyda Football For Life i gefnogi iechyd meddwl dynion drwy sesiynau pêl-droed cymunedol a oedd yn canolbwyntio ar gysylltiad, lles a lleihau unigedd.
Roedd gweithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hefyd yn cynnwys mynediad AM DDIM i’r gampfa, sesiynau nofio i blant, Bowls Cymdeithasol, gweithgareddau Cerdded a Sgwrsio, sesiynau Caffi Paned a Sgwrs a sesiynau chwarae meddal synhwyraidd ar draws lleoliadau Gwella.
Hoffai Gwella ddiolch i bawb a fynychodd, a gyfrannodd neu a gefnogodd y gweithgareddau drwy gydol yr wythnos ac a helpodd i wneud yr ymgyrch yn llwyddiant mawr ledled Sir y Fflint.

