Skip to content
Cyhoeddiad

Gwella Cymru yn penodi Andrew Bentley BEM fel y Rheolwr Gyfarwyddwr cyntaf

Mae Gwella Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Andrew Bentley fel ei Reolwr Gyfarwyddwr llawn amser cyntaf.

Mae Gwella yn gyfrifol am wasanaethau hamdden, llyfrgell a lles ledled Sir y Fflint, ar ran Cyngor Sir y Fflint. Mae’r cwmni’n cyflogi mwy na 280 o staff parhaol ar draws portffolio mawr o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Mae gan Andrew brofiad helaeth o uwch reoli ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar ôl rhedeg rhai o brif sefydliadau twristiaeth, lletygarwch a diwylliannol y Gogledd-orllewin – gan gynnwys neuaddau cyngherddau, gwestai, theatrau a llyfrgelloedd.

Yn fwyaf diweddar, fel Cyfarwyddwr PlaceCulture, mae ef wedi cynghori awdurdodau lleol a busnesau adfywio ledled y DU ar gynllunio strategol ar gyfer canolbwyntiau hamdden, diwylliannol a dinesig newydd.

Andrew oedd y Prif Weithredwr pan sefydlwyd Storyhouse yng Nghaer, ac arweiniodd y sefydliad tan 2023. Dan ei arweinyddiaeth ef, daeth Storyhouse yn un o ganolbwyntiau diwylliannol a dinesig newydd mwyaf llwyddiannus y DU, yn ogystal ag un o lyfrgelloedd prysuraf y wlad. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020 am ei holl waith yng Nghaer.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Andrew:

“Rwyf wrth fy modd yn ymgymryd â’r rôl hon ar adeg mor hanfodol. Mae ein gwasanaethau’n greiddiol i les a llwyddiant ein cymunedau, ac mae cefnogaeth ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn bwysicach nag erioed.
Rydym ni’n disgwyl bod â rhan gynyddol yn y gwaith o feithrin cydlyniant cymunedol, mynd i’r afael ag unigedd, a chynnig cyfleoedd i’r cenedlaethau. Mae Gwella yn bartneriaeth arloesol â Chyngor Sir y Fflint, ac yr wyf yn ddiolchgar am weledigaeth a chefnogaeth y Cyngor wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddatblygu sefydliad y gall Sir y Fflint fod yn falch ohono.”

Dywedodd Craig Macleod, Cadeirydd Gwella a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn siwrnai bwysig wrth i ni drawsnewid rheolaeth ein gwasanaethau hamdden a llyfrgell. Mae’r tîm wedi rheoli’r newid ag ymroddiad ac angerdd, a gyda’n gilydd yr ydym ni wedi dangos y gall ein gwasanaeth – a’r teulu sy’n ei redeg – ffynnu. Mae’n wych ein bod ni wedi gallu symud o drefniant dros dro llwyddiannus i benodi unigolyn o’r safon hon. Edrychwn ymlaen at lwyddiant a pherthnasedd cynyddol y gwasanaeth dan y model arweinyddiaeth newydd hwn.”

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top