Gweithgareddau Gwyliau’r Ysgol yn Sir y Fflint | Gwyliau’r Haf 2026
Yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda’r plant dros yr haf?
Mae Gwella wedi sortio’r gwyliau haf i chi gyda gweithgareddau fforddiadwy i deuluoedd ar draws Sir y Fflint. O nofio, chwarae meddal a bowlio deg i glybiau gwyliau, hyfforddiant pêl-droed, teganau aer a gweithgareddau cymunedol am ddim, mae yna rywbeth i bob oed trwy gydol gwyliau’r ysgol.
Pa unai ydych chi’n cynllunio diwrnod cyfan allan neu eisiau diddanu’r plant am ychydig oriau, bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ein canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol gydol yr haf.
Tarwch olwg ar raglen lawn yr haf ac archebwch ar-lein heddiw.
Cynigion Gwyliau’r Haf
Mae yna 20% oddi ar weithgareddau talu wrth fynd penodol trwy gydol gwyliau’r haf, gan ei gwneud hi hyd yn oed yn haws i fwynhau diwrnodau gwych allan fel teulu.
Mae’r cynnig yn cynnwys sesiynau penodol:
- Chwarae Meddal o £1.60
- Parc Sglefrio o £6.40
- Parc Bownsio o £7.60
Mae prisiau gostyngedig ar gael mewn sesiynau cyhoeddus penodol tan 1 Medi 2026.
Nofio
Mae nofio yn ffordd dda o aros yn heini yn ystod y gwyliau, beth bynnag yw’r tywydd.
Mae ein pyllau yn yr Wyddgrug, Bwcle a’r Fflint yn cynnig sesiynau nofio cyhoeddus drwy gydol yr haf, ynghyd â sesiynau teganau aer cyffrous yn y pwll i nofwyr hyderus.
Os ydi eich plant yn mwynhau sblasio neu os ydych chi’n chwilio am weithgaredd fforddiadwy i’r teulu, mae nofio yn ffordd wych o dreulio amser gyda’ch gilydd yn ystod y gwyliau.
Chwarae Meddal
Mae ein cyfleuster chwarae meddal dan do ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint yn berffaith i blant iau ddringo, cropian, archwilio a defnyddio egni mewn amgylchedd diogel. Mae’n weithgaredd delfrydol ar ddiwrnod glawog ac mae’n un o’r atyniadau mwyaf fforddiadwy i deuluoedd yn Sir y Fflint.
Parc Bownsio
Yn chwilio am rywbeth ychydig mwy egnïol? Mae’r Parc Bownsio yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn llawn rhwystrau, llithrennau a hwyl bownsio i blant, plant yn eu harddegau ac oedolion. Gyda sesiynau penodol wedi’u cynnwys yng ngostyngiadau’r haf, mae’n weithgaredd perffaith i deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod allan llawn antur.
Parc Sglefrio Dan Do
Pa unai ydych chi eisiau dysgu triciau newydd neu eisoes yn hyderus ar sgwter, beic BMX neu fwrdd sglefrio, mae Parc Sglefrio Dan Do Glannau Dyfrdwy yn cynnig sesiynau trwy gydol y gwyliau ar gyfer amrywiaeth o alluoedd. Mae sesiynau cyhoeddus penodol hefyd wedi’u cynnwys yng nghynnig gostyngedig yr haf.
Bowlio Deg
Mwynhewch gêm gyda’ch gilydd yng nghanolfan Bowlio Deg sydd â 10 lôn ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint. Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd, ffrindiau neu brynhawniau glawog, mae bowlio deg yn addas i bob oedran, ac mae’n ychwanegiad gwych i ddiwrnod allan dros yr haf.
Gweithgareddau’r Gwyliau a Hyfforddiant Pêl-droed
Ynghyd â’n hatyniadau arferol, rydym ni’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau gwyliau wedi’u trefnu trwy gydol yr haf. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sesiwn hyfforddiant pêl-droed
- Sesiynau aml-weithgaredd
- Clybiau gwyliau
- Sesiynau pŵl, bowlio a bwyd
- Sesiynau gweithgareddau i deuluoedd
Mae argaeledd yn amrywio trwy gydol y gwyliau, felly gwiriwch ein tudalen archebu ar-lein i gael y sesiynau diweddaraf.
Gweithgareddau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen Am Ddim
Mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn dychwelyd yr haf hwn gyda gweithgareddau am ddim i blant a theuluoedd ar hyd a lled Sir y Fflint. Mae’r rhaglen yn cyfuno chwaraeon, gemau, gweithgareddau creadigol, cyfleoedd i ddarllen a bwyd a diod am ddim mewn cymunedau lleol trwy gydol gwyliau’r ysgol. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Gwella, ac mae’n helpu plant i aros yn heini, mwynhau bwyd iach a darganfod pleser darllen yn ystod gwyliau’r haf. Nid oes angen archebu lle.
Tarwch olwg ar amserlen Ffitrwydd, Bwyd a Darllen.
Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn parhau i gynnig lle croesawgar i deuluoedd drwy gydol yr haf.
Ynghyd â llyfrau i bob oedran, mae nifer o lyfrgelloedd yn cynnal gweithgareddau am ddim i blant ac yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf, gan helpu i ddifyrru meddyliau ifanc yn ystod gwyliau’r ysgol.
Pa unai ydych chi’n benthyg llyfrau, yn mynychu digwyddiad neu’n mwynhau lle tawel gyda’ch gilydd, mae ein llyfrgelloedd ar agor drwy gydol y gwyliau.
Cwestiynau Cyffredin
Pa weithgareddau sydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol?
Mae Gwella yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys nofio, teganau aer yn y pwll, chwarae meddal, bowlio, sesiynau sglefrio dan do, hyfforddiant pêl-droed, clybiau gwyliau a gweithgareddau cymunedol am ddim drwy Ffitrwydd, Bwyd a Darllen.
Oes yna weithgareddau gwyliau am ddim dros yr haf yn Sir y Fflint?
Oes. Mae Ffitrwydd, Bwyd a Darllen yn darparu gweithgareddau, bwyd, diodydd a chyfleoedd darllen am ddim i blant a theuluoedd mewn cymunedau ar hyd a lled Sir y Fflint trwy gydol gwyliau’r ysgol.
Oes angen i mi archebu lle?
Gellir archebu nifer o weithgareddau ar-lein ymlaen llaw, er nid oes angen archebu lle ar gyfer rhai o’r gweithgareddau cymunedol am ddim megis Ffitrwydd, Bwyd a Darllen.
Pa ganolfannau Gwella sy’n cynnig gweithgareddau dros y gwyliau?
Cynhelir gweithgareddau yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Pafiliwn Jade Jones yn y Fflint, Canolfan Hamdden yr Wyddgrug, Canolfan Hamdden Bwcle, ein llyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol ar hyd a lled Sir y Fflint.
Cynlluniwch eich haf gyda Gwella
Pa unai ydych chi’n chwilio am ddiwrnodau allan fforddiadwy i’r teulu, gweithgareddau am ddim i blant neu ffyrdd cyffrous o gadw eich plant yn heini yn ystod gwyliau’r ysgol, mae Gwella’n cynnig rhywbeth trwy gydol yr haf.
