Skip to content
Cyhoeddiad

Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026: darganfyddwch ddarllen eich ffordd chi gyda Llyfrgelloedd Gwella

Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026: darganfyddwch ddarllen eich ffordd chi gyda Llyfrgelloedd Gwella

Mae 2026 wedi cael ei alw’n Flwyddyn Genedlaethol Darllen – ac mae’r ymgyrch ddarllen mwyaf mewn cenhedlaeth – wedi’i ddylunio i helpu mwy o bobl ailgysylltu â darllen a’i wneud yn rhan o fywyd bob dydd.

Mae darllen yn ymestyn ein byd, yn gwella ein meddyliau ac yn cefnogi lles i bobl o bob oed. Ond eto, mae llai o bobl yn dod o hyd i’r amser i ddarllen. Wedi’i arwain gan yr Adran Addysg, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol, nod Blwyddyn Genedlaethol Darllen ydi gwrthdroi’r gostyngiad yma drwy ddangos y gall darllen ffitio’n naturiol mewn i fywydau modern, prysur.

Mae Llyfrgelloedd Gwella yn falch o fod wrth galon yr ymgyrch cenedlaethol.

 

Darllen sydd yn cyd-fynd â’r ffordd rydym yn byw heddiw

Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen yn annog pobl i “Fynd Amdani” gyda’u hangerdd a diddordeb – boed hynny’n gerddoriaeth, pêl-droed, bwyd, bywyd teulu, ffuglen wyddonol, hanes neu faterion cyfoes – a darganfod sut y gall darllen ddyfnhau’r pethau maen nhw eisoes yn mwynhau eu darllen.
Yn 2026, mae darllen yn cael ei ailgysylltu gyda diwylliant. Nid yw’n ymwneud â darllen mwy er mwyn darllen, ond mae’n ymwneud â darllen mewn ffyrdd sy’n teimlo’n berthnasol, yn hyblyg ac yn werthfawr.

Llyfrgelloedd wrth galon cymunedau Sir y Fflint

Yn ystod Blwyddyn Genedlaethol Darllen, bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn chwarae rôl ganolog yn croesawu ymwelwyr newydd, yn dathlu creadigrwydd ac yn gwneud darllen yn hygyrch i bawb.
Ar draws Sir y Fflint, mae Llyfrgelloedd Gwella:

  • Yn diweddaru stoc yn rheolaidd gyda’r llyfrau poblogaidd diweddaraf
  • Yn cynnig llefydd croesawgar i bobl o bob oed
  • Yn cefnogi darllen er mwynhad, dysgu a lles
  • Yn cynnal gweithgareddau grwpiau sy’n dod â phobl at ei gilydd

Pa unai ydych chi wedi bod yn darllen gydol eich oes, neu heb bigo llyfr i fyny mewn blynyddoedd, mae eich Llyfrgell Gwella leol yn lle croesawgar i gychwyn.

Mae ymchwil cenedlaethol yn dangos bod plant a phobl ifanc sy’n mwynhau darllen yn llawer mwy tebygol o fod â lles meddyliol da, ond eto mae mwynhau darllen ar ei lefel isaf ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw. Mae hyn yn gwneud llyfrgelloedd croesawgar, hygyrch yn fwy pwysig nag erioed, nid ar gyfer dysgu yn unig, ond ar gyfer hyder, cysylltiad a lles ym mhob cam o fywyd.

Llyfrau Cymraeg i ddysgwyr a darllenwyr rhugl

Mae gan Lyfrgelloedd Gwella yn ystod eang o lyfrau Cymraeg gan gefnogi pawb o ddechreuwyr a dysgwyr i ddarllenwyr Cymraeg rhugl. Mae casgliadau’n cynnwys:

  • Ffuglen a ffeithiol
  • Llyfrau plant ac oedolion ifanc
  • Diddordeb lleol a diwylliant
  • Papurau newydd a chylchgronau

Mae teitlau Cymraeg ar gael ym mhob un o Lyfrgelloedd Gwella a thrwy blatfformau digidol, gan helpu dysgwyr o bob lefel i fagu hyder a mwynhau darllen Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Un cerdyn llyfrgell. Miloedd o deitlau ar eich ffôn.

Mae cerdyn llyfrgell Gwella yn rhoi mynediad i chi at wasanaethau digidol yn cynnwys BorrowBox a PressReader. Gyda’r apiau yma, gallwch fenthyg:

  • e-Lyfrau
  • Llyfrau llafar
  • Papurau newydd a chylchgronau

Mae’r cyfan yn mynd yn uniongyrchol i’ch ffôn, dabled, neu ddyfais. Nid oes yna ffioedd, dim tanysgrifiadau a dim ffioedd hwyr.

Mae darllen digidol hefyd yn opsiwn cyfeillgar i’r amgylchedd, gan helpu i leihau defnyddio papur tra’n rhoi mynediad i chi ar unwaith i ystod eang o deitlau lle bynnag ydych chi.

 

Mwy na llyfrau: grwpiau, cyrsiau a gweithgareddau cymunedol

Mae Llyfrgelloedd Gwella yn cynnig cymaint mwy na benthyg llyfrau. Mae gweithgareddau rheolaidd yn cynnwys:

  • Sesiynau Amser Rhigwm i fabanod a phlant bach
  • Clwb llyfrau i oedolion
  • Grwpiau gweu a sgwrsio
  • Cyrsiau gyrfaol a sgiliau, yn cynnwys Cymorth Cyntaf, Diogelu a Diogelwch Bwyd

Mae’r gweithgareddau yma’n helpu i ddod â phobl at ei gilydd, cefnogi dysgu a lleihau unigedd. Mae manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod i’w gweld ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llyfrgelloedd Gwella.

Ymunwch â Blwyddyn Genedlaethol Darllen gyda Gwella

Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 yn wahoddiad i chi ailddarganfod darllen mewn ffordd sy’n gweithio i chi.

Boed chi’n caru llyfrau, yn ffafrio llyfrau llafar, eisiau darllen mwy yn Gymraeg, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae Llyfrgelloedd Gwella yma i’ch helpu chi.

Os nad ydych chi eisoes yn aelod, gallwch gofrestru i gael cerdyn llyfrgell Gwella am ddim yn eich llyfrgell leol yn yr Wyddgrug, Bwcle, Glannau Dyfrdwy, Brychdyn, Cei Connah, y Fflint neu Dreffynnon.

Mae darllen i bawb – ac yn 2026, rydym ni’n mynd amdani.

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top