Tîm Ardaloedd Chwarae Gwella yn dathlu cwblhau’r 300fed Cynllun Gwella wrth i’r rhaglen arian-cyfatebol gyrraedd carreg filltir 15 mlynedd
Mae tîm Dylunio ac Archwilio Chwarae Gwella’n dathlu carreg filltir fawr yn 2025 wrth gwblhau ei 300fed cynllun gwella i uwchraddio cyfleusterau chwarae awyr agored plant ar draws Sir y Fflint.
Mae Gwella, y sefydliad dielw sy’n rheoli canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ardaloedd chwarae a chyfleusterau cymunedol ehangach ar ran Cyngor Sir y Fflint, hefyd yn goruchwylio rhaglen flynyddol arian-cyfatebol y Sir. Dan y cynllun hwn, mae Cyngor Sir y Fflint a’r Cynghorau Tref a Chymuned lleol yn cyfrannu arian cyfatebol at gost cyfarpar ac uwchraddiadau newydd, gan sicrhau buddsoddiad hirdymor mewn darpariaeth chwarae ddiogel, fodern a hygyrch ar gyfer plant a phobl ifanc.

Lansiwyd y rhaglen arian-cyfatebol yn 2010 gan Gyngor Sir y Fflint fel ffordd strwythuredig o fuddsoddi mewn mannau chwarae cymunedol. Cwblhawyd saith cynllun yn ei blwyddyn gyntaf. Mae’r rhaglen wedi ehangu’n gyson ers hynny ac mae ar y trywydd cywir i dorri ei record a chwblhau 28 o gynlluniau yn y flwyddyn ariannol hon. Mae pob un o’r 34 Cyngor Tref a Chymuned bellach yn rhan ohoni ac yn cyfrannu tuag at gyfanswm buddsoddiad o dros £4.5 miliwn ar draws 312 o gynlluniau uwchraddio dros 15 mlynedd.
Dywedodd Richard Roberts, sydd wedi rheoli’r rhaglen ers y cychwyn:
“Mae’r rhaglen arian-cyfatebol ar gyfer ardaloedd chwarae’n parhau i fynd o nerth i nerth. Y 28 o Gynghorau Tref a Chymuned sydd wedi cymryd rhan yn 2025/26 yw’r nifer uchaf erioed ac mae’n amlygu ymrwymiad cyffredin Cyngor Sir y Fflint a’r Cynghorau Tref a Chymuned lleol i gynnal mannau chwarae am ddim yn yr awyr agored i blant a phobl ifanc ar draws y sir.”
Ychwanegodd Sarah Hughes, Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Cymuned Penyffordd:
“Mae’r cynllun arian-cyfatebol wedi bod yn hollbwysig i allu gwneud gwelliannau ac uwchraddiadau hanfodol i ystod eang o’n hardaloedd chwarae cymunedol. Mae wedi caniatáu i ni gyflawni prosiectau mwy, sy’n cael mwy o effaith, fel gosod rampiau sglefrio, traciau pwmpio a chyfarpar arbenigol arall a fyddai wedi bod yn amhosib’ drwy adnoddau’r Cyngor lleol yn unig. Mae’r cynllun hefyd wedi sicrhau bod ein cyfleusterau’n parhau i fod yn fodern, cynhwysol a diogel, gan gefnogi iechyd a lles plant a theuluoedd ar draws y pentref.
“Mae’r bartneriaeth sydd wrth galon y cynllun yn annog perthynas waith gref rhwng y Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned. Mae’r cydweithio hwn yn gwneud y mwyaf o adnoddau ariannol a hefyd yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cynllunio’n ofalus yn ôl yr hyn mae’r gymuned a’r bobl leol ei eisiau ac ei angen yn strategol.
“Ar ben hynny, mae parhad y cynllun wedi rhoi sicrwydd hirdymor er mwyn cynllunio, sydd wedi ein galluogi i flaenoriaethu gwelliannau dros sawl blwyddyn a chynnal safon gyson ar draws ein holl ardaloedd chwarae. Mae wedi helpu i feithrin balchder cymunedol, annog gweithgarwch corfforol a chefnogi datblygu mannau bywiog, hygyrch sydd o fudd i bob grŵp oedran.”

Mae Gwella ar hyn o bryd yn cynnal ac yn archwilio 200 o gyfleusterau chwarae awyr agored yn Sir y Fflint, gan gynnwys llecynnau gemau amlddefnydd, parciau sglefrio, traciau pwmpio ac ardaloedd chwarae pêl. Mae rhagor o gynlluniau gwella ar gyfer 2025 i 2026 eisoes ar y gweill.
