Skip to content
Cyhoeddiad

Mae Gwella wedi ymrwymo i wella hygyrchedd at wersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle bynnag y bo modd, rydym yn ceisio recriwtio hyfforddwyr nofio sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn gallu addysgu gwersi gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

I gofrestru eich diddordeb mewn gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg, cwblhewch ein Ffurflen Ymholi am Wersi Nofio.

Fel rhan o’r ffurflen ar-lein hon, gofynnir i chi ‘A hoffech chi i’ch gwersi nofio gael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg?’ Dewiswch ‘Hoffwn’.

Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen, bydd ein tîm yn cysylltu â chi maes o law i drafod argaeledd gwersi nofio yn yr iaith o’ch dewis. Rydym yn gwerthuso’r data a gyflwynir drwy’r ffurflen ar-lein i asesu’r galw am wersi Cymraeg o fewn ein rhaglen Dysgu Nofio.

Gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg – asesiad o’r galw, 1 Ebrill – 30 Mehefin 2026

Yn ystod y cyfnod hwn, darparodd Gwella ddwy wers nofio drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug ar nos Lun:

Ton 3, 5:00-5:30pm          14% yn bresennol

Ton 4, 5:30-6:00pm          71% yn bresennol

Mae gwybodaeth a gafwyd drwy ein Ffurflen Ymholi am Wersi Nofio, y mae’r data’n cael ei gyrchu naill ai drwy’r wefan/gwefannau neu ddolenni mewn ymgyrchoedd (tua 50/50), wedi dangos y canlynol:

  • Cafwyd 620 o ymholiadau ar fersiwn Saesneg y ffurflen. Mynegodd chwech o ymatebwyr (<1%) ddiddordeb mewn gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ar fersiwn Gymraeg y ffurflen, cafwyd un ymholiad, ac roedd yn mynegi diddordeb mewn gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top