Skip to content
Cyhoeddiad

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein siwrnai cwsmer ar-lein newydd ar gyfer gweithgareddau hamdden sy’n cyflwyno ffordd gyflym a syml o ymaelodi a phorth archebu a thalu di-drafferth ar gyfer dosbarthiadau, cyrtiau a sesiynau.

Gall cwsmeriaid bellach fewngofnodi i’w cyfrif, neu greu un newydd os nad ydynt eisoes wedi cofrestru ar ein cronfa ddata, a phrynu aelodaeth fisol debyd uniongyrchol neu aelodaeth flynyddol ar gyfer eu gweithgaredd o’u dewis – campfa a ffitrwydd, nofio, sglefrio iâ neu sba.

Nid oes unrhyw ffurflenni papur i’w llenwi! Gellir ymuno ar-lein yn ddiogel, ac mae ein hwb hunan-wasanaeth yn galluogi aelodau i reoli’r hanfodion gan gynnwys diweddaru manylion personol, gweld gweithgareddau a archebwyd, storio cardiau talu, a chysylltu cyfrifon teulu. Mae ‘Fy Nghyfrif’ yn eich cadw chi, yr aelod, mewn rheolaeth.

YMUNWCH a CHOFRESTRU ar gyfer aelodaeth fisol debyd uniongyrchol neu aelodaeth flynyddol mewn munudau.

Parhewch i YMUNWCH NAWR

 

Oes gennych aelodaeth yn barod neu’n mwynhau talu wrth i chi fynd? Ewch i Fy Nghyfrif, neu greu cyfrif ar ôl i chi drefnu eich gweithgareddau cyntaf, trwy ein porth archebu a thalu.

Parhewch i ARCHEBWCH NAWR

 

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top