Mae ein telerau ac amodau cyffredinol yn berthnasol ar gyfer pob aelodaeth, a dylid eu darllen ar y cyd â thelerau ac amodau penodol eraill sy’n berthnasol i becynnau aelodaeth neu weithgareddau unigol.
Y telerau ac amodau hyn (y “Telerau”) sy’n gosod rheolau eich aelodaeth. Felly dylech ddarllen y Telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddod yn aelod, gan eu bod yn egluro eich hawliau cyfreithiol chi a’n rhai ninnau ac yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ein contract gyda chi.
Drwy gwblhau’r broses gofrestru, rydych chi’n cytuno i dderbyn y Telerau hyn. Os nad ydych chi’n barod i dderbyn y Telerau hyn, ni ddylech chi gwblhau’r broses gofrestru. Drwy barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych chi’n cytuno i dderbyn y Telerau hyn.
Mae unrhyw ddefnydd o ‘ni’ neu ‘ein’ yn y Telerau ac Amodau Aelodaeth hyn yn cyfeirio at Gwella, sef darparwr y gwasanaeth.
Mae unrhyw ddefnydd o ‘chi’ neu ‘eich’ yn cyfeirio atoch chi, y cwsmer (fydd yn aelod cyn bo hir).
1.0 Gwybodaeth amdanom ni
1.1 Mae Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig, sy’n masnachu fel Gwella, yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n rhedeg canolfannau hamdden a llyfrgelloedd ar ran Cyngor Sir y Fflint.
1.2 Os hoffech chi gysylltu â ni, gallwch wneud hynny drwy anfon neges e-bost at info@gwella.wales neu ffonio 01352 702436.
2.0 Diffiniadau
2.1 Mae Debyd Uniongyrchol yn golygu’r cytundeb talu gyda’ch banc i dalu eich ffioedd misol.
2.2 Mae Aelodaeth Flynyddol, yn golygu eich bod yn talu ymlaen llaw am aelodaeth sy’n para cyfnod o 12 mis.
2.3 Mae Aelodaeth Talu Wrth Fynd Misol yn golygu eich bod yn talu ymlaen llaw am aelodaeth sy’n para cyfnod o 30 diwrnod calendr.
2.4 Mae Aelodaeth Arbed 10 yn golygu eich bod yn talu ymlaen llaw am 10 tocyn defnydd untro.
2.5 Mae Canolfan Hamdden yn golygu un o bedwar cyfleuster Gwella, sef Canolfan Hamdden Bwcle, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Pafiliwn Jade Jones, y Fflint, a Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug.
2.6 Mae Aelod yn golygu chi neu unrhyw unigolyn arall sydd â chyfrif wedi’i gofrestru â Gwella.
2.7 Mae Ffi Fisol yn golygu’r ffi sy’n daladwy bob mis gan aelod am y math cyfatebol o aelodaeth.
3.0 Creu cyfrif
3.1 Wrth ymuno â chanolfannau hamdden Gwella, bydd cyfrif unigryw’n cael ei greu i chi yn unig ei ddefnyddio. Rhaid i chi beidio â gadael i unrhyw aelod arall nac unrhyw un nad yw’n aelod ddefnyddio eich cyfrif chi i gael mynediad at ganolfan hamdden.
3.2 Chi sy’n gyfrifol am gadw eich cyfrif yn ddiogel drwy beidio â rhannu eich manylion mewngofnodi na’ch cerdyn aelodaeth gyda defnyddiwr arall.
3.3 Er diogelwch ein holl aelodau, byddwn yn monitro’r defnydd o gyfrifon, a gellir gofyn i aelodau ddarparu prawf o bwy ydyn nhw. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gael tynnu llun o’ch wyneb a’i ychwanegu at eich cyfrif digidol gan un o weithwyr Gwella.
3.4 Os oes gennym ni sail resymol i gredu eich bod wedi rhoi manylion eich cyfrif neu eich cerdyn aelodaeth yn fwriadol i unigolyn arall, neu wedi rhoi mynediad diawdurdod iddyn nhw drwy adael iddyn nhw eich dilyn i mewn i’r gampfa, mae gennym ni hawl i atal eich cyfrif, gan gynnwys eich aelodaeth (os ydych chi’n aelod), a’ch atal rhag mynd i mewn i’n canolfannau hamdden.
3.5 Dylech ddarparu manylion cyfredol a chywir wrth greu eich cyfrif ar-lein.
3.6 Gallwch greu eich cyfrif unigol ar lein wrth brynu eich aelodaeth neu weithgaredd, neu pan fyddwch chi’n galw i mewn i un o’n canolfannau hamdden.
4.0 Ymuno drwy ddebyd uniongyrchol
4.1 Gallwch gwblhau’r broses gofrestru ar gyfer debyd uniongyrchol naill ai ar lein, dros y ffôn neu yn y dderbynfa. Gwnewch yn siŵr bod y manylion y byddwch chi’n eu rhoi i ni amdanoch eich hun yn gywir ac yn gyflawn.
4.2 Wrth gofrestru i dalu drwy ddebyd uniongyrchol, bydd gofyn i chi wneud taliad pro-rata cychwynnol gyda cherdyn credyd/debyd am y cyfnod rhwng y dyddiad cofrestru a dyddiad casglu’r taliad debyd uniongyrchol cyntaf, a fydd yn cael ei dalu’n syth o’r cyfrif banc y byddwch chi wedi rhoi ei fanylion i ni. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio’r manylion cyn cofrestru ac ar ôl i chi gael y neges e-bost i gadarnhau. Rhowch wybod i ni ar unwaith os bydd unrhyw wybodaeth yn anghywir.
4.3 Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru, fe gewch chi neges e-bost i gadarnhau hynny gennym ni, a bydd hon yn cynnwys holl wybodaeth y cofrestriad debyd uniongyrchol, cyfeirnod, a’r warant debyd uniongyrchol. Bydd y neges e-bost hefyd yn cynnwys manylion am sut i ddefnyddio ein porth archebu ar-lein. Dylech roi gwybod i ni ar unwaith os na chewch chi neges e-bost yn cadarnhau eich bod wedi trefnu debyd uniongyrchol.
4.4 Bydd eich aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol yn cychwyn yn unol â’r dyddiad cychwyn a ddewiswyd.
4.5 Bydd eich aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol yn adnewyddu’n ddiofyn bob mis oni fyddwch chi wedi gwneud cais i’w ganslo dros e-bost neu wedi ei ganslo’n uniongyrchol drwy eich banc.
4.6 Ni ellir ad-dalu ffioedd debyd uniongyrchol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol fel salwch difrifol. Mewn achosion o’r fath, gallwn ofyn am lythyr gan feddyg neu dystiolaeth feddygol arall.
4.7 Mae eich ffi debyd uniongyrchol yn barhaus, ac nid yw wedi’i seilio ar eich defnydd o’r cyfleusterau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn parhau i fwynhau manteision aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol. Nid yw Gwella’n gyfrifol am fonitro lefelau defnydd cyfrifon unigol.
4.8 Gallwch ddewis newid eich aelodaeth drwy ei israddio neu ei uwchraddio, dros e-bost neu yn y dderbynfa. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os byddwch chi’n israddio, a bydd angen talu swm pro-rata os byddwch chi’n uwchraddio eich aelodaeth.
4.9 Ni allwn roi ad-daliad am aelodaeth, ac mae angen talu ymlaen llaw i ddefnyddio ein cyfleusterau. Wrth gofrestru am ddebyd uniongyrchol, rydych chi’n cytuno i dalu’r taliad cychwynnol fel yr eglurwyd yn 4.2. Ni allwn ad-dalu’r taliad hwn.
4.10 Byddwn yn atal eich mynediad at ein system archebu a’n gweithgareddau ar unwaith os cawn ni wybod bod eich taliad debyd uniongyrchol am y mis i ddod wedi methu.
5.0 Ymuno drwy aelodaeth flynyddol
5.1 Mae’r cynnig aelodaeth flynyddol yn cynnwys un mis am ddim pan fyddwch chi’n talu ymlaen llaw am 12 mis (yn seiliedig ar y tâl debyd uniongyrchol misol cyfatebol).
5.2 Rhaid i chi dalu’n llawn ar y diwrnod y byddwch chi’n prynu’r aelodaeth.
5.3 Ar ôl ei phrynu, ni allwch chi gael ad-daliad am yr aelodaeth flynyddol, ond fe allwch chi ei throsglwyddo i gyfrif arall. Os byddwch chi wedi defnyddio rhan o’r aelodaeth, dim ond y cyfnod pro-rata o aelodaeth sy’n weddill fydd yn cael ei drosglwyddo.
5.4 Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud ag iechyd y caniateir estyniad i ddyddiad terfyn yr aelodaeth flynyddol, a hynny ond os cyflwynir llythyr gan y meddyg teulu neu’r ysbyty.
5.5 Mae’r cynnig aelodaeth flynyddol ar gael i aelodau newydd sbon, aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol, aelodau sy’n adnewyddu ac aelodau y mae eu haelodaeth wedi dod i ben. Gellir prynu’r aelodaeth fel anrheg i aelodau newydd hefyd.
5.6 Rhaid i aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol ac sy’n mynd ymlaen i brynu aelodaeth flynyddol ganslo eu cyfarwyddyd debyd uniongyrchol presennol gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu.
5.7 Ni fydd ad-daliad pro-rata ar gael i aelodau presennol sy’n talu debyd uniongyrchol ac sy’n trosglwyddo o danysgrifiad debyd uniongyrchol misol i’r cynnig aelodaeth flynyddol.
5.8 Gallwch ddewis newid eich aelodaeth drwy ei israddio neu ei uwchraddio, dros e-bost neu yn y dderbynfa. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os byddwch chi’n israddio, a bydd angen talu swm pro-rata os byddwch chi’n uwchraddio eich aelodaeth.
6.0 Ymuno drwy dalu wrth fynd yn fisol
6.1 Mae’r aelodaeth fisol drwy gerdyn/arian parod yn para 30 diwrnod o ddyddiad ei phrynu.
6.2 Caiff ffi weinyddu ei hychwanegu at ein haelodaeth talu wrth fynd misol, sy’n golygu bod y dewis hwn yn costio £2.50 yn fwy y mis na’r aelodaeth gyfatebol drwy ddebyd uniongyrchol.
6.3 Gallwch brynu aelodaeth fisol drwy gerdyn/arian parod o un o dderbynfeydd ein canolfannau hamdden neu dros y ffôn. Chi sy’n gyfrifol am adnewyddu’r aelodaeth ar ôl iddo ddod i ben ymhen 30 diwrnod.
7.0 Ymuno drwy’r cynllun Arbed 10
7.1 Mae tanysgrifiad Arbed 10 yn cynnwys dwy sesiwn am ddim pan fyddwch chi’n talu am ddeg sesiwn ymlaen llaw. Byddwch yn talu ymlaen llaw am wyth sesiwn ac yn cael deg sesiwn.
7.2 Bydd un sesiwn yn cael ei thynnu oddi ar gyfanswm eich sesiynau bob tro y byddwch chi’n archebu’r gweithgaredd perthnasol ymlaen llaw.
7.3 Gallwch brynu tanysgrifiad Arbed 10 o un o’n derbynfeydd neu dros y ffôn.
7.4 Ar ôl ei phrynu, ni allwch chi gael ad-daliad am yr aelodaeth Arbed 10, ond fe allwch chi ei throsglwyddo i gyfrif arall. Dim ond y tocynnau sy’n weddill o’r cynllun Arbed 10 fydd yn cael eu trosglwyddo i’r cyfrif arall.
8.0 Aelodaeth a gweithgareddau’r ystafell ffitrwydd
8.1 I archebu a defnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd, bydd rhaid i chi drefnu ymgynghoriad cychwynnol (neu sesiwn gyflwyno). Mae’r sesiwn hon yn rhad ac am ddim fel rhan o ddyletswydd gofal Gwella i gwsmeriaid. Gallwch drefnu ymgynghoriad cychwynnol yn un o’n derbynfeydd neu dros y ffôn.
8.2 Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu a chyrraedd yr ymgynghoriad cychwynnol yn brydlon. Ni allwn roi ad-daliad am unrhyw fwlch amser rhwng dyddiad cychwyn y tanysgrifiad a dyddiad y sesiwn gyflwyno o ganlyniad i ddiffyg gweithredu ar ran y cwsmer i drefnu ymgynghoriad cychwynnol.
8.3 Ni fydd angen i aelodau presennol sy’n talu wrth fynd ac sydd yna’n cofrestru ar gyfer debyd uniongyrchol neu aelodaeth flynyddol gael ymgynghoriad cychwynnol, ond fe allan nhw drefnu sesiwn adolygu rhaglen neu sesiwn ffitrwydd personol yn rhad ac am ddim.
8.4 Mae gofyn i bob cwsmer lenwi holiadur sgrinio iechyd drwy’r ap Technogym. Ar ôl iddo gael ei lenwi, bydd yr holiadur yn cael ei storio’n ddiogel ar gyfrif Technogym y cwsmer. Rhaid i gwsmeriaid dan 18 oed gael caniatâd rhiant neu warcheidwad cyfreithiol. Rhaid i’r rhiant neu’r gwarcheidwad fod yn bresennol gyda’r person ifanc pan fyddan nhw’n llenwi’r holiadur sgrinio iechyd, a darparu’r caniatâd angenrheidiol.
8.5 Fe allem ni gyfyngu mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau nes y byddwch chi wedi llenwi’r holiadur sgrinio iechyd, neu nes y byddwch chi wedi cael caniatâd y rhiant neu warcheidwad.
8.6 I ddod yn aelod ffitrwydd neu ddefnyddio ein cyfleusterau ffitrwydd, rhaid i chi fod yn 11 oed o leiaf. Rhaid i aelodau sydd rhwng 11 a 13 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn bob amser.
8.7 Mae gofyn i bob aelod rhwng 11 a 17 oed gael rhiant neu warcheidwad i lofnodi eu hymgynghoriad cychwynnol cyn y gallan nhw ddechrau defnyddio eu haelodaeth.
8.8 Mae yna gyfyngiad ar fynediad i ardal bwysau ein hystafelloedd ffitrwydd ar gyfer aelodau rhwng 11 a 15 oed, wedi’u seilio yn ôl ystod oedran. Dim ond ymarferion ar y peiriannau cardio ac ymarferion pwysau’r corff y caiff aelodau rhwng 11 a 12 oed eu gwneud; dim ond y peiriannau cardio, gwrthiant ac ambell i bwysau rhydd y caiff aelodau rhwng 13 a 15 oed eu defnyddio.
8.9 Mae yna amodau ar gymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd ar gyfer aelodau sydd rhwng 11 a 15 oed, wedi’u seilio yn ôl ystod oedran. Dim ond dosbarthiadau pwysau’r corff y caiff aelodau sydd rhwng 11 a 12 oed gymryd rhan ynddyn nhw, a rhaid i oedolyn fod gyda nhw; caiff aelodau rhwng 13 a 15 oed fynd i bob dosbarth ffitrwydd, ond rhaid i oedolyn fod gyda nhw.
8.10 Bydd aelodaeth ffitrwydd i bobl ifanc yn eu harddegau yn dod i ben ar unwaith pan nad ydyn nhw’n gymwys mwyach oherwydd eu hoedran (h.y. pan fyddan nhw’n troi’n 18 oed). Rhaid i chi drosglwyddo i aelodaeth oedolyn os hoffech chi barhau i ddefnyddio’r cyfleuster.
8.11 Bydd rhaid i unrhyw gwsmer sydd eisiau ymaelodi drwy aelodaeth ostyngedig ddangos prawf priodol eu bod yn gymwys.
9.0 Cyfleusterau
9.1 Mae gennych chi hawl i ddefnyddio’r cyfleusterau a amlinellir yn eich pecyn aelodaeth. Ar gyfer aelodaeth mynediad diderfyn, mae’r cyfnod archebu ymlaen llaw wedi’i gyfyngu i saith niwrnod. Mae Gwella yn cadw’r hawl i newid y cyfnod hwn unrhyw bryd i sicrhau bod pob aelodaeth yn deg i’r holl aelodau.
9.2 Gallai canolfannau hamdden gau neu agor am lai o oriau ar ddiwrnodau gwyliau cyhoeddus. Gall y cyfleusterau hefyd gau ar gyfer digwyddiadau arbennig. Bydd hysbysiadau i gwsmeriaid yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gwella, drwy ei blatfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, neu eu harddangos yn y canolfannau hamdden cyn unrhyw newidiadau. Bydd unrhyw archebion y talwyd amdanyn nhw ar y diwrnodau hynny yn cael eu trosglwyddo i ddyddiadau eraill neu fe gewch chi ad-daliad. Ni fydd unrhyw ad-daliadau pro-rata yn cael eu gwneud ar gyfer pecynnau aelodaeth yn sgil cau’r cyfleusterau neu leihau eu horiau agor ar ddiwrnodau gwyliau cyhoeddus.
9.3 Mae Gwella yn cadw’r hawl i dynnu ambell gyfleuster a gweithgaredd oddi ar eu pecynnau aelodaeth ar sail gofynion busnes y sefydliad. Bydd pawb a fydd yn cael eu heffeithio yn cael eu hysbysu ymlaen llaw mewn achosion o’r fath.
9.4 Efallai y bydd angen i ni gau cyfleuster neu ran ohono i’w atgyweirio/adnewyddu ar sail iechyd a diogelwch neu er mwyn gwella’r gwasanaeth. Gallai hyn arwain at ganslo dosbarthiadau, sesiynau, gwersi neu fynediad i’n cyfleusterau. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn gwneud ein gorau i arddangos gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganslo, gan roi cymaint o rybudd ag y bo modd. Pan fo’n bosib, byddwn yn ceisio trefnu darpariaeth arall pan fydd y cyfleuster ar gau.
9.5 Nid yw eich pecyn aelodaeth yn gwarantu bod cyfleusterau ar gael.
9.6 Yn amodol ar 9.7, nid ydym yn atebol i chi am y mathau canlynol o golled neu ddifrod:
a. unrhyw golled neu ddifrod o fath na ellir ei ragweld yn rhesymol;
b. unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o’r ffaith eich bod chi wedi camddefnyddio’r ganolfan hamdden, ei chyfarpar, neu eich aelodaeth; neu
c. unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni.
9.7 Ni fwriedir i unrhyw beth yn y contract hwn gyfyngu nac eithrio ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, twyll, neu gamliwio twyllodrus, neu mewn ffordd arall lle na chaniateir i ni gyfyngu neu eithrio ein hatebolrwydd yn unol â chyfraith y DU.
10.0 Rheolau mynediad cyffredinol
10.1 Gofynnwn i’n cwsmeriaid drin ein gweithwyr a’n hadeiladau cymunedol gyda pharch a, pan fo’n briodol, gadael ein cyfleusterau a dychwelyd ein cyfarpar yn yr un cyflwr ag yr hoffen nhw ddod ar ei draws eu hunain.
10.2 Rydym yn cadw’r hawl i ofyn i gwsmeriaid adael y cyfleuster os byddan nhw’n camddefnyddio eu haelodaeth, yn gwrthod cadw at y rheolau a’r cyngor o ran diogelwch, yn achosi difrod i’n hadeiladau, yn ymddangos dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, neu’n ymddwyn mewn unrhyw ffordd arall a ystyrir yn annerbyniol gan dîm rheoli’r ganolfan.
10.3 Gwaherddir ysmygu a fêpio ym mhob un o gyfleusterau Gwella.
10.4 Ni chaniateir tynnu lluniau na ffilmio o fewn cyfleusterau Gwella heb gael caniatâd ymlaen llawn gan dîm rheoli’r ganolfan. O bryd i’w gilydd, fe allem ni dynnu lluniau er dibenion hyrwyddo neu ar gyfer y wasg. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn ceisio caniatâd pob cwsmer dan sylw cyn mynd ati i wneud hynny.
10.5 Anogir ein cwsmeriaid i gymryd gofal rhesymol wrth ddefnyddio cyfleusterau Gwella. Mae gan bob cyfleuster neu atyniad ei reolau a’i gyngor diogelwch penodol ei hun, a gofynnir i’r cwsmeriaid ymgyfarwyddo â’r rhain cyn cymryd rhan yn y gweithgaredd.
10.6 Yn achos unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad, dylai cwsmeriaid roi gwybod i aelod o dîm Gwella cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, a chyn gadael yr eiddo pan fo hynny’n bosib. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cofnodi ac ymchwilio i’r digwyddiad yn briodol. Gallai peidio â rhoi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad yn brydlon atal Gwella rhag gallu cynnal ymchwiliad llawn a chymryd camau adfer priodol.
11.0 Polisi mynediad i’r pwll nofio
11.1 Caiff plant sy’n 8 oed neu’n hŷn ddefnyddio’r pyllau nofio ar eu pennau eu hunain heb fod angen oedolyn i’w goruchwylio.
11.2 Rhaid i oedolyn fod yn y dŵr gyda phlant rhwng 4 a 7 oed bob amser (dim mwy na dau o blant i bob oedolyn). Rhaid i oedolyn fod yn y dŵr yn goruchwylio plant dan 4 oed ar sail un-i-un, ond mae’r pwll dysgwyr yn y Fflint yn caniatáu i un oedolyn cyfrifol oruchwylio dau o blant rhwng 1 a 7 oed, cyn belled â bod gan y plant gyfarpar cymorth nofio addas.
12.0 Gwersi nofio
12.1 Cynhelir ein rhaglen Dysgu Nofio am 50 wythnos y flwyddyn, gyda saib dros y Nadolig. Ewch i wefan Nofio Cymru i weld y llwybr nofio a’r deilliannau ar gyfer ein Rhaglen Dysgu Nofio.
12.2 Mae cost gwersi nofio wedi’i seilio ar rannu blwyddyn galendr yn 12 taliad debyd uniongyrchol misol neu daliad talu wrth fynd misol gyda cherdyn/arian parod. Caiff ffi weinyddu ei hychwanegu at ein haelodaeth talu wrth fynd misol, sy’n golygu bod y dewis hwn yn costio £2.50 yn fwy y mis na’r aelodaeth gyfatebol drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd eich taliad debyd uniongyrchol am wersi nofio yn gweithredu ar yr un telerau ac amodau ag a amlinellir yn adran 4.0 uchod.
12.3 Dylid gwneud pob taliad erbyn y dyddiad dyledus. Gallai peidio â thalu ar amser, neu dalu’n hwyr, arwain at golli lle eich plentyn yn y gwersi nofio.
12.4 Nid oes rhaid i chi roi gwybod i’r ganolfan hamdden os bydd eich plentyn yn methu gwers nofio oherwydd gwyliau teuluol neu salwch, oni bai bod y salwch yn un hirdymor. Ni fyddwn yn rhoi credyd am wersi a gollir oherwydd gwyliau teulu neu salwch. Dim ond os cewch chi anaf tymor byr sy’n eich atal rhag mynd i’ch gwersi nofio y caiff ceisiadau i rewi cyfrifon eu cymeradwyo. Os bydd rhaid i ni ganslo gwers nofio eich plentyn oherwydd bod rhaid cau’r pwll am unrhyw reswm, bydd cost y wers honno’n cael ei gredydu i’ch cyfrif ar gyfer y mis nesaf.
12.5 Bydd eich plentyn yn cael ei asesu’n barhaus yn ystod y gwersi. Os yw eich plentyn ar fin symud o un grŵp Ton i’r nesaf, bydd tîm y Brif Swyddfa yn cysylltu â chi dros e-bost.
12.6 Wrth gyrraedd y ganolfan hamdden, ewch i’r dderbynfa i gofnodi presenoldeb eich plentyn gyda’u cerdyn aelodaeth.
12.7 I gael gwybodaeth am ganslo gwersi, ewch i adran 15.0.
12.8 Mae nofio am ddim yn ystod sesiynau cyhoeddus wedi’i gynnwys fel un o fuddion pob aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol a thalu wrth fynd bob mis gyda cherdyn/arian parod.
13.0 Gwersi sglefrio iâ
13.1 Cynhelir ein rhaglen Gwersi Sglefrio Iâ am 50 wythnos y flwyddyn, gyda saib dros y Nadolig.
13.2 Mae cost gwersi sglefrio iâ wedi’i seilio ar rannu blwyddyn galendr yn 12 taliad debyd uniongyrchol misol neu daliad talu wrth fynd misol gyda cherdyn/arian parod. Caiff ffi weinyddu ei hychwanegu at ein haelodaeth talu wrth fynd misol, sy’n golygu bod y dewis hwn yn costio £2.50 yn fwy y mis na’r aelodaeth gyfatebol drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd eich taliad debyd uniongyrchol am wersi sglefrio iâ yn gweithredu ar yr un telerau ac amodau ag a amlinellir yn adran 4.0 uchod.
13.3 Dylid gwneud pob taliad erbyn y dyddiad dyledus. Gallai peidio â thalu ar amser, neu dalu’n hwyr, arwain at golli eich lle yn y gwersi sglefrio iâ.
13.4 Fel rhan o’r broses gofrestru ar gyfer y cwrs sglefrio iâ newydd, fe gewch chi ‘gerdyn gwersi’. Ewch â’r cerdyn hwn gyda chi i’r Arena Iâ er mwyn i un o gydweithwyr Gwella allu ei arwyddo er mwyn dangos eich bod yn bresennol. Os hoffech chi aros ar yr iâ ar ôl eich gwers, bydd rhaid i chi archebu lle ar-lein neu dalu yn y dderbynfa. Mae cynnig ychwanegol sglefrio iâ diderfyn drwy ddebyd uniongyrchol ar gael os hoffech chi sglefrio yn amlach nag unwaith yr wythnos.
13.5 Nid oes rhaid i chi roi gwybod i’r ganolfan hamdden os byddwch chi’n methu gwers oherwydd gwyliau teuluol neu salwch, oni bai bod y salwch yn un hirdymor. Ni fyddwn yn rhoi credyd am wersi a gollir yn sgil gwyliau teuluol neu salwch. Dim ond os bydd anaf tymor byr yn eich atal rhag mynychu eich gwers sglefrio iâ y caiff ceisiadau i rewi cyfrifon eu cymeradwyo. Os bydd rhaid i ni ganslo eich gwers oherwydd bod rhaid cau’r Arena Iâ am unrhyw reswm, bydd cost y wers honno’n cael ei gredydu i’ch cyfrif ar gyfer y mis nesaf.
13.6 Os byddwch chi’n dymuno parhau â’r gwersi sglefrio iâ ar ôl gwers olaf y mis, ewch i’r brif dderbynfa i archebu lle ar y cwrs newydd. Bydd un o Ymgynghorwyr Cwsmeriaid Gwella yn cael golwg ar eich cyfrif er mwyn sicrhau eich bod wedi archebu lle ar y lefel briodol. Yna, fe gewch chi ‘gerdyn gwersi’ newydd ar gyfer y mis nesaf. Os byddwch chi’n anghofio dod â’ch cerdyn gwersi gyda chi i sesiwn, ewch i’r brif dderbynfa i fewngofnodi.
13.7 I gael gwybodaeth am ganslo gwersi, ewch i adran 15.0.
14.0 Taliadau
14.1 Dylech dalu am bob archeb ar y diwrnod y byddwch yn archebu, onid ydych chi wedi gwneud trefniadau blaenorol gydag ein hadran gyllid. Ni fydd eich archeb talu wrth fynd yn cael ei chadarnhau nes y byddwn ni wedi cael eich taliad, ac fe allem ni ei chanslo.
14.2 Os na fyddwn ni’n cael taliad sy’n ddyledus gennych chi am unrhyw reswm, rhaid i chi dalu yn y dderbynfa cyn gynted ag y gallwch chi.
14.3 Dim ond os yw eich cyfrif yn gyfredol heb unrhyw daliadau’n ddyledus y byddwch chi’n cael parhau i gael mynediad at ein cyfleusterau.
14.4 Fe allem ni godi prisiau aelodaeth a gweithgareddau o bryd i’w gilydd yn dilyn adolygiad o’n prisiau. Fe rown ni wybod i chi ddeng niwrnod cyn gwneud unrhyw newid i bris eich aelodaeth.
14.5 Rydym yn cadw’r hawl i ddod ag unrhyw gynnig ac/neu god hyrwyddo i ben heb rybudd unrhyw bryd.
15.0 Canslo
15.0 Gallwch ddod â’ch aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol i ben unrhyw bryd drwy ganslo eich cyfarwyddyd debyd uniongyrchol gyda’ch banc. Gallwch hefyd wneud cais i ganslo drwy gyflwyno cais yn defnyddio ein ffurflen ganslo. Cyfrifoldeb y cwsmer yw canslo ei daliad debyd uniongyrchol gyda’u banc.
15.2 Gallwch ganslo eich archeb am weithgaredd ar lein neu drwy ffonio un o’n canolfannau hamdden. Mae angen rhoi 24 awr o rybudd i gael ad-daliad llawn.
15.3 I ganslo gwersi nofio neu sglefrio iâ eich plentyn, llenwch ein ffurflen ganslo a chanslo eich debyd uniongyrchol gyda’ch banc.
15.4 Mae ceisiadau am ad-daliadau yn amodol ar asesiad gan ein hadran gyllid, ac efallai na fyddan nhw’n cael eu caniatáu Pe bai cais am ad-daliad yn cael ei wrthod, bydd Gwella yn rhoi esboniad llawn am y penderfyniad a wnaed ar sail ei asesiad o’r amgylchiadau a gyflwynwyd.
16.0 Gwybodaeth bersonol
16.1 Wrth ymaelodi â Gwella, rydych chi’n cytuno i Gwella a’i bartner meddalwedd, Gladstone, brosesu eich gwybodaeth bersonol.
16.2 Er mwyn ein helpu i gadw ein cyfleusterau’n ddiogel, gofynnwn i bob aelod sydd dros 18 oed, ac aelodau’r gampfa sydd dros 11 oed, ddarparu prawf adnabod cyfredol gyda’u llun arno ar gyfer eu cyfrif aelodaeth.
16.3 Mae prawf adnabod gyda llun arno yn ein helpu i ddilysu eich aelodaeth, yn amddiffyn rhag camddefnyddio aelodaeth, yn helpu diogelu, ac yn sicrhau mai dim ond aelodau awdurdodedig sy’n cael mynediad at ein cyfleusterau.
16.4 Mae Gwella wedi ymrwymo’n llawn i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, yn ogystal â’ch hawliau chi o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi gydag unrhyw gwmnïau eraill.
16.5 Mae Gladstone, ein partner meddalwedd, wedi ymrwymo i drin data yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), a dim ond i’r graddau angenrheidiol i gynnal y system reoli hamdden y bydd yn gwneud hynny.
16.6 Mae gennych chi hawl i ddewis peidio â chael negeseuon marchnata gan Gwella unrhyw bryd.
Diweddarwyd diwethaf: Awst 2026
