Skip to content
Cyhoeddiad

Llysgennad Ifanc y Flwyddyn Sir y Fflint 2025: Siwrnai gwirfoddoli Ethan

Mae Ethan Trevor, 15, o Aston, wedi cael ei enwi yn Llysgennad Ifanc y Flwyddyn 2025 Sir y Fflint drwy raglen Llysgenhadon Ifanc Youth Sport Trust Cymru, menter genedlaethol sydd wedi’i hariannu a’i chefnogi gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Mae Ethan wedi bod yn gwirfoddoli gyda Datblygu Chwaraeon Gwella am y ddwy flynedd diwethaf, yn cefnogi clybiau chwaraeon allgyrsiol yn ei ysgol a gweithgareddau yn y gymuned ar draws Sir y Fflint. Dechreuodd wirfoddoli yn 13 oed drwy’r rhaglen Ffitrwydd, Bwyd a Darllen, a datblygodd yn gyflym i swydd llysgennad ifanc ehangach.

“Rydw i wedi cefnogi digwyddiadau chwaraeon, gweithgareddau allgyrsiol, a helpu i drefnu prosiectau cymunedol hefyd,” meddai Ethan. “Mae cymryd rhan ers yn 13 oed wedi magu fy hyder, ac wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau arwain.”

Drwy’r rhaglen, mae Ethan wedi ennill profiad yn cefnogi digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys gweithgareddau sy’n cael eu darparu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac wedi mynychu Gŵyl Chwaraeon Gareth Bale yng Nghasnewydd.

“Rwyf wedi cael profiadau anhygoel, wedi cwrdd â llysgenhadol eraill sy’n rhannu fy nghariad am chwaraeon, ac mae pob sesiwn gyda thîm Gwella yn llawn o hwyl bob amser,” ychwanegodd.

Mae Datblygu Chwaraeon Gwella yn cefnogi 42 o wirfoddolwyr ifanc ar hyn o bryd, ac mae llysgenhadon o Sir y Fflint yn cymryd rhan weithredol mewn ysgolion a chymunedau.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar roi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc i adeiladu ar eu hyder, sgiliau a phrofiad drwy weithgarwch chwaraeon a chorfforol.

Gall pobl ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr neu’n llysgennad ifanc drwy eu hysgol neu gymuned, gysylltu â jamie.sharp@gwella.cymru i ganfod mwy.

Cysylltwch â ni
Cysylltiadau Cyflym
Back To Top