Gwobrau Cenedlaethol yn cydnabod Tîm Datblygu Chwaraeon Gwella
Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Gwella wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori Gwobr Hyfforddwr Chwaraeon Gwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Llywodraeth Cymru 2025.
Cynhaliwyd y seremoni yng Nghaerdydd ar 6 Tachwedd 2025, ac fe gafodd Gwella ei enwi ymhlith y tri uchaf yng Nghymru am ei gyfraniad at gefnogi plant a phobl ifanc Sir y Fflint drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae rhaglen Bwyd a Hwyl yn darparu addysg am fwyd a maeth, ymarfer corff, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant mewn ysgolion yn ystod gwyliau’r haf. Yn 2025 roedd y rhaglen Bwyd a Hwyl yn dathlu deng mlynedd o gydweithio i wella iechyd meddwl a lles emosiynol, cynyddu gweithgarwch corfforol ac ymddygiad dietegol cadarnhaol, cefnogi ymgysylltiad a chyrhaeddiad mewn ysgolion a chodi dyheadau pobl ifanc.

Cafodd Gwella ei enwebu ar gyfer y gwobrau cenedlaethol gan Adran Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, partner allweddol i ddarpariaeth lwyddiannus y rhaglen Bwyd a Hwyl. Gan siarad ar ran y tîm Addysg, dywedodd Jane Bartley, Swyddog Ysgolion Iach Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Gwella wedi bod yn bartner ac yn aelod o Grŵp Llywio Bwyd a Hwyl Sir y Fflint ers lansio’r rhaglen yn y sir yn ôl yn 2018, ac maen nhw wedi cefnogi pob ysgol sy’n rhan o’r rhaglen i ddarparu gweithgarwch corfforol. Mae hyfforddwyr Gwella yn darparu o leiaf un sesiwn yr wythnos ymhob ysgol. At ei gilydd, cynhaliwyd 31 o sesiynau i 721 o gyfranogwyr mewn tair wythnos.
Mae Gwella hefyd yn cydlynu rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y gwyliau: ‘Ffitrwydd, Bwyd a Darllen’. I ategu’r rhaglen Bwyd a Hwyl, ac mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Gwella, roedden nhw’n gallu cynnig eu rhaglen yn y prynhawn ar gyfer rhai safleoedd. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i deuluoedd a oedd wedyn yn gallu manteisio ar ofal plant a gweithgareddau am ddim ar gyfer rhan fawr o’r diwrnod gwaith. Mae hyn yn dangos gwerth Gwella fel rhan o’r rhaglen Bwyd a Hwyl a’r cysylltiad rhwng gweithgareddau bore a phrynhawn, gan ddarparu profiad cynhwysfawr a diddorol i blant a phobl ifanc.
Mae cael Canmoliaeth Uchel a chyrraedd y tri uchaf yng Nghymru yn gyflawniad aruthrol. Mae Michelle a’r tîm wedi cefnogi Bwyd a Hwyl ers ei lansio yn Sir y Fflint, ac maen nhw’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth yma.”
Meddai Michelle Thomas, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Gwella:
“Roedd bod yn rhan o’r rhaglen Bwyd a Hwyl a gweld yr effaith gadarnhaol a gafodd ar bobl ifanc yn ystod y tair wythnos adeg gwyliau’r haf yn wobrwyol iawn. Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn angerddol iawn am gefnogi cyfleoedd i helpu pobl ifanc i gadw’n egnïol, magu hyder a mwynhau bod yn rhan o’u cymunedau trwy chwaraeon.”
Am fwy o wybodaeth am weithgareddau a rhaglenni gwyliau ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint, dilynwch Datblygu Chwaraeon Gwella ar Facebook, @gwella.sportdevelopment ar Instagram, @GwellaSportDev ar X a @gwellasportsdev ar TikTok.
