Gwella bywydau drwy iechyd a lles
Cam 1 o 8 12%
Cam 1 o 8
Mae cyfle i chi rŵan un ai uwchlwytho eich CV i ategu eich cais neu lenwi ein ffurflen gais ar-lein.
Os ydych yn dewis cyflwyno eich CV yn hytrach na llenwi ffurflen gais, gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth y gallai Gwella, fel cyflogwr, fod eisiau ei hystyried, yn enwedig:
Nodwch enwau a chyfeiriadau canolwyr sy’n cwmpasu eich hanes cyflogaeth am o leiaf y 12 mis diwethaf. Defnyddir geirdaon i wirio cywirdeb y wybodaeth a ddarperir yn ystod y broses recriwtio a dim ond ar ôl i gynnig ar lafar gael ei dderbyn y byddwn ni’n gofyn am eirdaon.
Ni chewch enwebu perthnasau, partneriaid nag Aelodau o Fwrdd Gwella fel canolwyr.
Mae’n rhaid i rai sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg ddarparu un canolwr o’r uwch staff addysgu yn eu hysgol, coleg neu brifysgol.
Ers faint rydych yn eu hadnabod?
Mae Gwella yn sicrhau cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Nid oes rhaid i ymgeiswyr sydd ag anableddau ddarparu unrhyw wybodaeth oni bai eu bod eisiau a dim ond i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hystyried yn llawn dan y Cynllun Sicrhau Cyfweliad fydd gwybodaeth am anabledd yn cael ei defnyddio.
Mae Gwella yn sicrhau cyfweliad i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Bydd cyfweliad yn cael ei gynnig i gyn-filwyr os ydynt yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Dan ddarpariaethau Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, nid oes rhaid i chi fel arfer ddatgelu unrhyw euogfarnau sydd wedi ‘darfod’. Er hynny, mae’n rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau sydd gennych ar ôl.
Yn rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, rydym ni’n monitro gallu Cymraeg ymgeiswyr a gweithwyr yn rheolaidd. Llenwch yr asesiad sgiliau Cymraeg canlynol. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro’n unig ac ni fydd yn cael ei hystyried yn rhan o’ch cais am y swydd.
Os yw’r Manylion am yr Unigolyn yn dweud bod Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, sicrhewch eich bod wedi trafod hynny yn eich CV neu Ddatganiad Ategol.
Gallwch weld diffiniadau’r Fframwaith Rhuglder Sgiliau Cymraeg yma
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi’n cael ei chadw am gyfnod o hyd at 12 mis, a’i defnyddio a/neu ei phrosesu fel y bo’n angenrheidiol gan Gwella neu Gyngor Sir y Fflint (sy’n darparu gwasanaethau Adnoddau Dynol ar ran Gwella) at ddibenion cyflawni ei ddyletswyddau, i fonitro cyfleoedd cyfartal ac i atal neu ganfod trosedd.
Gallai eich data personol gael ei ddatgelu a’i rannu gyda phartneriaid lleol os bydd achos rhesymol i’w ddatgelu ac i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny.
Trwy gyflwyno’r ffurflen hon, rwy’n cytuno i Gwella wneud gwiriadau priodol cyn fy nghyflogi ar ôl i mi, ar lafar, dderbyn cynnig swydd amodol neu lythyr cynnig swydd. Gallai’r rhain gynnwys asesiad iechyd, cofnodion troseddol neu unrhyw wiriadau perthnasol eraill fel maent wedi’u diffinio gan ofynion y swydd rwyf wedi ymgeisio amdani.
Rwy’n cadarnhau bod y wybodaeth sydd wedi’i darparu yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd y gwn i. Rwy’n deall, os wyf wedi gwneud datganiad anwir neu wedi ateb unrhyw rai o’r cwestiynau’n gelwyddog, neu wedi hepgor unrhyw fanylion perthnasol, y bydd yn rheswm digonol i wrthod fy nghais, neu, os wyf wedi cael fy nghyflogi’n barod, y gallai olygu cymryd camau disgyblu.